rhwfun arall just yr un amser? Mor wirion yr ydw i'n siarad! Ydw i'n peidio â drysu? Kit, ydech chi'n cysgu? O mor unig ydw i! ac a fydda i. 'Does gynnon ni ddim cyfeillion, a 'theimlais i 'rioed o'r blaen ryw lawer o angen am gyfeillion. Ond 'does gynnon ni neb neilltuol. Oes, y mae hefyd—mae Enoc Huws yn wir gyfaill—yr unig gyfaill sy gynnon ni. Mor wirion fûm i yn 'i wrthod o. 'Does dim gwell dyn na fo yn y sir, a mi wn ein bod ni'n dibynnu'n hollol arno ers talwm. 'Rwyf yn meddwl fy mod yn ei garu yn fawr, ac eto fedra i ddim dygymod â'r meddwl o'i briodi o. Bydae o'n cynnig ei hun i mi eto, wrthodwn i mono. Na! 'dydw i ddim yn meddwl y derbyniwn ei gynigiad chwaith—mi lyna wrth 'y nhad. O! na fase 'nhad yn dduwiol! Ond 'dydi o ddim—waeth heb wenieitho. Mae o'n slâf i'r ddiod, ac yn rhagrithio bod fel arall, fel bydae hyd yn oed y fi ddim yn gwybod. Fy nyletswydd, 'rwyf yn meddwl, ydi glynu wrtho hyd y diwedd. O! Dduw, bendithia'r amgylchiad hwn er ei iechydwriaeth! Mor chwith fydd bod heb yr un fam! Beth ddaw ohonof gyda'r fath dad! Mi geisiaf 'neud fy nyletswydd ac ymddiried yn Nuw. O! fel yr yden ni i gyd wedi gadel 'mam bach! ac mor fuan! Ei gadel ei hun yn y rŵm dywyll yna heb neb i gadw cwmpeini iddi, fel bydae ni ddim yn perthyn iddi! O! mae o'n greulon, mor fuan! 'Rydw i'n gwirioni—na 'dydw i ddim—'rwyf yn siŵr 'i fod yn galed, yn greulon ei gadel ar ei phen ei hun, a mi âf i gadw cwmpeini iddi, fedra i ddim aros yma."
Gwawriodd y bore. Deffrôdd Kit ar ôl deng awr o gwsg melys, oedd yn amheuthun iddi. Cododd ar ei heistedd yn y gwely. Cofiodd bopeth oedd wedi digwydd y diwrnod cynt. Edrychodd am Miss Trefor—yr oedd wedi codi o'i blaen, ac nid oedd hynny ond peth digon cyffredin. Ymwisgodd yn frysiog. Aeth i lawr i'r gegin, oedd yn oer a heb dân yn y grât. Aeth tua'r parlwr, yr oedd y drws yn gil-agored. Agorodd ef yn