ddistaw. Yr oedd y Capten yn cysgu'n drwm ar y soffa, ond nid oedd Miss Trefor yno. Tynnodd y drws ati yn ofalus. Rhaid, meddai Kit, fod Miss Trefor wedi mynd allan. Chwiliodd y drysau; yr oeddynt yn gloedig fel y gadawsai hi hwynt cyn mynd i'r gwely. Dechreuodd hyd yn oed Kit deimlo'n ofnus. Ni fedrai feddwl am gynnau tân a gwneud twrw heb gael gwybod ym mha le yr oedd Miss Trefor. Tynnodd ei slipanau rhag gwneud trwst, ac aeth i fyny'r grisiau ac i'w hystafell hi ei hun. Na, nid oedd yno neb. Chwiliodd yr ystafelloedd eraill gyda'r un canlyniad. Nid oedd ond un lle arall i edrych amdani. A oedd hi wedi beiddio, ar ei phen ei hun, fynd i'r ystafell lle yr oedd corff marw ei mam yn gorwedd? Yr oedd drws yr ystafell hon yn hanner agored, a theimlai Kit rywbeth fel dŵr oer yn rhedeg i lawr ei chefn pan agorodd dipyn chwaneg arno ac yr ysbïodd i mewn. Ie, yno yr oedd hi. Wedi hanner ymwisgo, a shawl dros ei hysgwyddau, gorweddai Susan wrth ochr corff marw ei mam ar y gwely, a'i braich dde yn ei chofleidio, a'i phen wrth ei phen hithau ar y gobennydd. Gall hyn ymddangos yn anghredadwy, ond ffaith ydyw. Ac nid oedd llawer o wahaniaeth rhyngddynt yr oedd y ddau wyneb yn wyn fel yr eira—y ddau gorff yn berffaith lonydd—un mewn cwsg trwm ac yn anadlu, a'r llall mewn cwsg trwm ond heb anadlu.
Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/315
Gwedd