Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/322

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffŵl dwl. Ond y mae Sem dan fy mawd, ac fe ŵyr hynny'n burion. Mi achubais gorn ei wddw pan laddwyd Job Jones, druan, ym Mhwll y Gwynt. Wn i beth wnaeth i Sem gymryd yn erbyn y bachgen clyfar hwnnw. Ond fel y dywedais i wrth Sem—mi gofith y noswaith tra bydd o byw—fe fuasai mor hawdd i mi ei wneud yn gyfrifol am wel, cyn sicred â bod f'enw i yn—ie, ond pwy ŵyr hwnnw oddieithr Sem! Yr ydym yn quits! Ond mae'n rhaid i mi feddwl am ffurfio rhyw fath o gwmpeini—pro. Tem., fel y dywedir, i 'ngalluogi i fynd dros y gamfa hon yn fy mywyd."