Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/323

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XLIV

Y Parch. Obediah Simon

YR oedd Mr. Obediah Simon, y bugail, ac Eos Prydain yn gyfeillion mynwesol. Ni welsai Mr. Simon erioed ddyn mwy pur ac unplyg na'r Eos, ac ni welsai'r Eos bregethwr yn deall hanner cymaint o Sol-ffa ag a ddeallai Mr. Simon. Ac ni fu'r Eos yn fyr o fynegi hynny yn gyhoeddus fwy nag unwaith. Wedi clywed yr Eos yn canmol Mr. Simon am ei wybodaeth o Sol-ffa dro ar ôl tro, dywedai Thomas Bartley ei fod yn methu'n lân â dirnad beth oedd a wnelai gwybodaeth o sol-ffa â phregethu'r Efengyl, a chredai ef y dylasai Dafydd Dafis, oedd yn ffarmwr wrth ei grefft, wybod mwy o lawer na Mr. Simon am sol-ffa.

"Ac am bygethu," chwanegai Thomas, 'mae Mr Simon yn pygethu yn rhy ddyfn o lawer i fy sort i a Barbra, a well gynnon ni fil o weithiau wrando ar yr hen John Dafis, Nercwys. Mae'r pry hwnnw yn dallt ffordd cymdogion yn rhyfedd anwêdd, 'ddyliwn i. Wyddoch chi be, fydda i'n cael fawr o flas ar bygethu Mr. Simon, nes daw o dipyn at y diwedd. Mi wn ma arna i y ma'r bai, ac ma'r dyn yn ddyn digon clên hefyd, siampal. Ddaru mi ddeud wrthoch chi rw dro ffasiwn bygethwr fydda i'n licio? Naddo? Wel, dyna f'aidî i am bygethwr—hwyrach 'mod i'n methu—ond dyna'r sort fydda i'n licio—pygethwr ddeidith i dext yn ddigon uchel i bawb i glywed o. Yrwan, er pan ydw i'n dechre mynd dipyn i oed, a dim yn clywed cweit mor dda ag y byddwn i—'dydw i ddim yn clywed 'u hanner nhw'n deud 'u text, ac os collith dyn y text, mae o fel ci mewn ffair am blwc. Dyna beth arall fydda i'n licio mewn pygethwr, ydi 'i fod o'n fywus, a heb fod â'i ben yn 'i blu. Dda gen i un amser mo'r pygethwrs ara deg a thrwm yma—ma nhw wastad yn 'y ngneud i yn reit ddigalon. A dene lle bydda i'n deud y mae pygethwrS y Wesle yn yn curo ni—y Methodus. Wyddoch chi be, 'roeddwn i'n ddiweddar mewn cyfarfod Wesle, a chyfarfod