drwg. Yr wyf yn credu o 'nghalon na ddylai un bachgen gael dechre pregethu os na fydd o'i ysgwyddau i fyny yn uwch na'i gyfoedion mewn gallu, gwybodaeth, a diwylliant, ac os na fydd wedi ei hynodi ei hun ym mhob cylch o fewn ei gyrraedd i'w wneud ei hun yn ddefnyddiol, ac i ddangos gonestrwydd ei sêl dros wneuthur daioni. Ac nid wyf yn credu mai oddi wrth y gŵr ieuanc y dylai'r cais am gael pregethu ddyfod, ond fel deisyfiad neu orchymyn oddi wrth eraill ato ef —y rhai fydd wedi sylwi arno, a chanfod ynddo gymwysterau i'r gwaith."
"Yr wyf yn cydweled â llawer o'r hyn 'rydech chi'n 'i ddeud, Thomas," ebe Dafydd, "ond mi wyddoch o'r gore bydase ambell un yden ni'n 'i 'nabod fel gwir bregethwr yn aros nes i'r eglwys ofyn iddo bregethu, y base heb ddechre hyd heddiw."
"Eithriad ydyw hynny, Dafydd Dafis," ebe Didymus. Mae dywediad fod bardd yn cael ei eni'n fardd, ac nid yn cael ei wneud yn fardd; ac y mae'n hollol wir. Pa nifer o feirdd a anwyd yn feirdd sydd yng Nghymru heddiw? Gellwch eu cyfrif ar bennau eich bysedd." "Ydech chi'n meddwl deud, Thomas, y gellwch chi gyfrif gwir bregethwyr Cymru ar benne'ch bysedd?" gofynnai Dafydd.
"Dim o'r fath beth," ebe Didymus, "o drugaredd y maent yn llu mawr. Mae ar Gymru fwy o angen am bregethwyr nag am feirdd, ac y mae Duw wedi creu mwy ohonynt. Ydech chi ddim yn meddwl, Dafydd Dafis, ein bod ni'n cael gormod o bregethu?"
"Gormod o bregethu, Thomas? 'Does dim gormod o bregethu i fod."
"Wel," ebe Didymus, "mi fyddaf i'n ofni 'n bod ni'n cael gormod o bregethu o'r hanner, o'r peth, ydi o. Ydi o'n ateb rhyw ddiben heblaw cynefino'r gwrandawyr â'r ffeithiau a'u hamddifadu o'u newydddeb, a pharatoi agwedd ddigyffro erbyn y daw un i ddweud yr hanes yn ei swyn a'i nerth?"