"Beth a ddeuai o'n holl gynulleidfaoedd—yn enwedig ein cynulleidfaoedd bychain yn y wlad—bydaech yn llwyddo i roi stop ar yr holl bregethwyr nad ydynt yn ein hargyhoeddi eu bod wedi eu geni neu eu bwriadu i fod yn bregethwyr?" gofynnai Dafydd.
"Beth sydd yn dyfod ohonynt yn awr?" gofynnai Didymus. "A oes ychwanegiadau atynt o'r byd? Onid yr unig beth sydd yn eu cadw heb leihau ydyw hiliogaeth yr eglwysi eu hunain?"
'Ydech chi ddim yn meddwl gneud i ffwrdd â phregethu, ydech chi, Thomas?" gofynnai Dafydd.
"Gwarchod pawb! nac ydwyf ar un cyfrif," ebe Didymus. "Ond pe medrwn, mi wnawn i ffwrdd â phob pregethwr nad ydyw wedi ei ddonio ag ysbryd y weinidogaeth y dosbarth sydd yn llenwi adwyon ac yn arbed cael cyfarfodydd gweddïo.'
"Ond pwy sydd i benderfynu pwy ydi'r gwir bregethwyr, a phwy ydi'r rhai sy'n llenwi adwyon?" gofynnai Dafydd.
"Yr eglwysi, wrth gwrs, drwy'r balot," ebe Didymus, "llawer gwell, yn ôl fy meddwl i, fyddai i ni fyw ar ein bloneg, hyd yn oed am fis, hyd nes deuai ein tro i gael y pregethwr, yn hytrach na chadw siop fach bob Saboth fel y gwneir yn awr."
"Byw go fain fyddai hi arnom ni," ebe Dafydd," a mi fydde'n bloneg ni wedi darfod yn lled fuan, mae gen i ofn. Mae gynnoch chi ryw ddrychfeddyliau gwylltion ac amhosib bob amser, Thomas. Ond gadwch i ni siarad sens, da chi. Be ydech chi am 'i ddeud yn y papur am y cyfarfod neithiwr? "
"Mae gennyf flys cymryd eich awgrym a pheidio â dweud dim," ebe Didymus, "hynny ydyw, rhoi rhyw baragraff bach diniwed. Achos y peth gore fedrwn i ddweud am Mr. Simon a fyddai mai dyn y lifrai oedd o. O! ie, cofiwch, y goler, dyna anhepgor gweinidog y dyddiau hyn, nid cadach gwyn ddwywaith o gwmpas y