Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VI

Cyffes Ffydd Miss Trefor

PAN aeth Wil Bryan oddi cartref, wedi rhagweled sut y byddai hi ar ei dad, llawenhaodd calon un dyn gonest yn ei ymadawiad, sef yr eiddo Enoc Huws. Yr oedd Enoc, druan, yn un o'r dynion diniweitiaf a mwyaf difalais ar wyneb daear, ond ni allai oddef mo Wil Bryan. Ni wnaethai Wil erioed ddim niwed iddo, ond yn unig beidio â chymryd sylw ohono. Ac eto, pe clywsai Enoc fod Wil wedi ei ladd, neu ei fod wedi ymgrogi, prin y gallasai ymatal rhag gwenu, onid llawenhau. Yr oedd cael gwared o Wil, heb i'r naill amgylchiad na'r llall ddigwydd, yn rhoi modd i Enoc lawenhau'n ddirfawr, heb anesmwythyd cydwybod. Yn ystod y blynyddoedd y bu Enoc yn mynd a dyfod yn ein plith, ni buasai ugain gair rhyngddo â Miss Trefor. Ac eto, amdani hi y meddyliai y dydd ac y breuddwydiai y nos. Er na olygai Enoc, yng ngwyleidd—dra ei ysbryd, ei fod yn gymar teilwng i Miss Trefor, ac er na choleddai'r gobaith gwannaf y dôi dyheadau ei galon byth i ben—yn wir, yn ei funudau synhwyrol, canfyddai mai ffansi wyllt wirion oedd y cwbl—eto carai adael i'w ddychymyg droi fel gwenynen o gwmpas a hofran uwchben gwrthrych ei ddymuniad di-nâg, ac yr oedd gwybod bod rhywun arall yn mwynhau cymundeb nes, yn ei lenwi ag eiddigedd, ac yn ei wneud yn druenus dros ben. Weithiai teimlai'n enbyd o ddig wrtho ef ei hun, a phryd arall chwarddai am ben ei ffolineb; ond fel y dywedodd wrtho'i hun ugeiniau o weithiau, nid oedd ei feddyliau yn niweidio neb, ac ni wyddai neb amdanynt.

Yr oedd Enoc yn llawen iawn am fod Wil Bryan wedi mynd oddi cartref; ond ni chymerasai ganpunt am hysbysu ei lawenydd hyd yn oed i'w gyfaill pennaf. Bellach, nid oedd un gacynen i fynd rhwng y wenynen a'r blodyn, a phe cawsai Enoc sicrwydd na ddôi un gacynen arall, o'r braidd na fuasai'n ddyn dedwydd. A mwynhaodd y dedwyddwch cymharol hwn am dymor lled faith, drwy roi ffrwyn i'w ddychymyg i godi castelli yn awyr