Siop y Groes. Ond pe gwybuasai Enoc am "gastelli" Miss Trefor, prin y buasai ei rai ef nemor uwch na phridd y wâdd.
Llanwai Wil Bryan le mawr yng nghalon Miss Trefor. Hoffai hi ei gwmni y tu hwnt i bopeth. Byddai gan Wil bob amser rywbeth i'w ddweud, a'r rhywbeth hwnnw yn wastad at y pwrpas. Ni byddai hi byth yn blino arno, a phan fyddai gydag ef, ni byddai'n gorfod dyfeisio am ba beth i sôn nesaf, fel y byddai gyda'r "baboons erill." A hyd yn oed pan ddeallodd hi fod ei thad wedi cyrraedd gwaelod shwmp" poced Hugh Bryan, ni pharodd hynny unrhyw ddiflastod ar gwmni Wil, nac unrhyw leihad yn ei hedmygedd ohono. Yr oedd y Capten, fwy nag unwaith, wedi rhoi ar ddeall iddi ei anghymeradwy— aeth o'i hoffter hi o Wil, ond ni wnaeth gwahardd yr afal i ferch Efa ond peri iddi ei ddymuno'n fwy. Teimlodd Miss Trefor oddi wrth ymadawiad Wil fwy nag y dymunasai hi i neb ei wybod, fwy nag a gyfaddefai wrthi hi ei hun. Am amser, collodd hyfrydwch ym mhopeth, ac yr oedd meddwl am fynd i'r capel yn gas ganddi. Ond am amser yn unig y bu hyn. Er yr holl sylw a dalodd Wil iddi, a'r holl garedigrwydd a ddangosodd, a'r difyrrwch diderfyn a barodd iddi am gyhyd o amser, nid oedd yn bosibl, ymresymai Miss Trefor, fod Wil, wedi'r cwbl, yn hidio rhyw lawer ynddi, onid e, ni buasai'n mynd ymaith heb gymaint â sôn gair wrthi, na gyrru llinell ati. Ac fel geneth gall a synhwyrol, eisteddodd Miss Trefor i lawr i ail—gynllunio program ei bywyd, ac ail-ffurfio'i hegwyddorion, yn ôl y rhai y byddai iddi weithredu yn y dyfodol. Ni chymerodd iddi lawer o amser i ffurfio'i chredo a chyffes ei ffydd. Yr hyn a arferai gyniwair drwy ei meddwl a'i chalon yn afluniaidd, amhenodol a gwâg, fe'i dygodd yn ebrwydd i drefn a dosbarth, a phe gofynnai rhywun iddi wrth ba enw y galwai hi'r pethau hyn, ei hateb fuasai "Fy ideas." O'r ideas gellir enwi'r rhain : mai hi oedd y ferch brydferthaf yn y wlad (yr oedd Wil Bryan wedi ei sicrhau o hynny, cystal judge â neb y gwyddai hi amdano). Fod prydferthwch yn dalent, ac y