Llew Du, ac nad hwnnw fyddai'r tro olaf iddo ymweled a'r Brown Cow. Yr oedd Mrs. Prys yn hen wreigan letygar a chroesawus, ac yn ei ffordd radlon ei hun, llusgodd y Capten gerfydd ei law i'r bar, a gwnaeth iddo yfed ei hiechyd da â gwydraid o mountain dew, er mwyn cael ei farn arno. Canmolodd y Capten y chwisgi, a chan ei fod yn ei hoffi, gorfu Mrs. Prys ef i gymryd gwydraid arall er ei mwyn hi. Ufuddhaodd y Capten, oblegid ni hoffai groesi menywod.
Bu'r Capten yn un â'i air (yr oedd bob amser felly), ac o'r noson honno ymlaen ymwelai deirgwaith, ac weithiau bedair gwaith yn yr wythnos â'r Brown Cow. Drwy ei fod yn ymddiddanwr campus, a'i fod yn un lled, gyfarwydd â'r modd yr oedd y byd yn mynd yn ei flaen, parodd ei ymweliadau â'r Brown Cow i gwmni'r parlwr gynyddu i bump, ac o'r diwedd i hanner dwsin, ac weithiau ychwaneg na hynny. Yr oedd y cwmni yn mawrhau ei gymdeithas, a Mrs. Prys yn mwynhau ei ymweliadau yn fwy na neb. Gwelai'r Capten hynny yn eglur ddigon, ac y mae'n naturiol i bob dyn dalu parch i'r cwmni fydd yn ei iawn brisio. Teimlai, heb ymffrost, ei fod o'i ysgwyddau yn uwch mewn gallu, doniau, gwybodaeth, ac yn enwedig dawn ymadrodd, na'r holl gwmni gyda'i gilydd, a gwyddai yr edrychid arno felly gan y cwmni. Mewn gwirionedd, oni bai ei fod yn ormod o ŵr bonheddig i ymostwng i hynny, ni buasai raid iddo wario dim am ddiod, canys yr oedd y cwmni bron ag ymrafaelio am gael talu'r shot. Cymaint oedd y sylw a delid i'r hyn a ddywedai, cymaint oedd y pris a roddid ar ei olygiadau, a chymaint oedd y boddhad a roddai hyn i gyd iddo ef ei hun, fel yr aeth cwmni'r Brown Cow yn angenrheidiol iddo bob nos drwy'r wythnos. A thawelai'r Capten ei gydwybod gyda'r syniad nad oedd iddo fwynhad mwyach yn ei gartref wedi colli annwyl briod ei fynwes. Yr oedd yn wir fod ganddo ferch, ond pa gymdeithas oedd rhwng yr ieuanc a'r hen—rhwng yr haf a'r gaeaf? Cyn iddo erioed ddechrau