Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/347

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mynychu'r dafarn yr oedd y Capten yn yfwr trwm a chyson yn ei gartref, ac er na byddai un amser yn meddwi —hynny ydyw, meddwi nes methu cerdded—neu gael ambell godwm—nac, yn wir, un amser golli ei ben—eto yr oedd effeithiau'r hir ddiota i'w canfod yn amlwg arno. Nid oedd, ers tro, mor drwsiadus a thaclus ei wisg yr oedd ei ysgwyddau'n ymollwng, ei goesau'n mynd yn fwy anhysaf bob dydd, a'i wyneb—oedd gynt yn wyneb hardd iawn—yn prysur fyned yn unlliw, heb wahaniaeth rhwng y gwefusau a'r bochau—a phob rhan o'r wyneb megis yn ceisio dyfod i'r un lliw â'r trwyn, oedd y cyntaf i newid ei liw i liw nad oedd yn lliw yn y byd. Y lliw tebycaf y gallaf ddychmygu amdano ydyw iau llo wedi ei tharo gan fellten. Yr wyf yn siŵr na fuasai un o gyfoedion ieuenctid y Capten—heb ei weled er hynny yn ei adnabod o holl bobl y byd. Rhoddai'r Capten gyfrif gwyddonol am y lliw rhyfedd hwn oedd ar ei wyneb drwy ei briodoli i effeithiau rhyw gases tanddaearol y deuai, fel capten gwaith mwyn, i gyffyrddiad â hwy; a rhyw affinity yng nghroen ei wyneb a ddygai oddi amgylch ryw chemical process nad oedd mwynwyr eraill yn agored iddo. Ond y gwir yw, nid oedd llawer o waith wedi ei adael i'r Brown Cow i "orffen" y Capten, pan ddechreuodd fynychu'r tŷ. Canfyddai Miss Trefor hyn yn amlwg, ac yr oedd yn dyfod yn fwy amlwg iddi bob dydd. Pa ofid meddwl, pa gyni calon, a achosodd hyn i gyd iddi, ni wyddai neb ond hi ei hunan. Ofnai siarad ag ef ynghylch ei gyflwr, a gwyddai'n dda na fuasai hynny o un diben. Gwelai'n eglur na allai ei thad ddal yn hir i gerdded y ffordd a gerddai, a hwyrach i hynny beri iddi fod yn barotach i wrando ar gais Enoc Huws, ac, o'r diwedd, fynd i amod ag ef. Pa fodd bynnag, ystyriai mai ei dyletswydd oedd hysbysu ei thad am yr amod a wnaethai hi. Bu am adeg yn gwylio am amser cyfaddas ac i ddal ar y cyfleustra pryd y byddai ei thad yn y dymer orau, canys ni wyddai hi pa fodd y cymerai ef y newydd.