Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/348

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Credai y byddai'r newydd yn dderbyniol ganddo, ond ofnai y byddai iddo fynd i natur ddrwg am nad oedd hi wedi ymgynghori ag ef cyn rhoi addewid mor bwysig, oblegid yr oedd gan y Capten syniad uchel am ei urddas. Yn y boreau a'r prynhawniau, pan fyddai ef yn berffaith sobr, yr oedd ei dymer yn afrywiog a blinderog, a'r tipyn lleiaf yn ei yrru yn gaclwm ulw; ac yn y nos drachefn, wedi dychwelyd o'r Brown Cow, byddai'n swrth a chysglyd, ac nid ystyriai Miss Trefor ei fod yn beth gweddus sôn am y peth ar y Sul. Ac fel hyn, aeth wythnosau heibio cyn iddi gael dweud ei stori. Cynigiodd Enoc fwy nag unwaith siarad â'r Capten, ond gwrthodai Miss Trefor ei wasanaeth, am y credai, yn gymaint â'i bod wedi addo priodi Enoc cyn ymgynghori â'i thad, a'i bod yn benderfynol o gadw ei haddewid beth bynnag a ddywedai ef, mai ei dyletswydd hi oedd ei hysbysu am y ffaith, ac wedi iddi unwaith gredu bod rhywbeth yn ddyletswydd arni, nid oedd modd ei symud oddi wrth ei bwriad.

Ond daeth y cyfleustra o'r diwedd, ac fel hyn y bu.. Un noswaith pan aeth y Capten i'r Brown Cow, cafodd yn y cwmni ŵr dieithr, ac nid yn y cwmni ychwaith, oblegid eisteddai ym mhen draw'r ystafell, wrth fwrdd bychan, yn ysgrifennu, fel y gwelir trafaeliwr yn gwneud yn fynych, a buasai'r Capten yn tybio mai trafaeliwr ydoedd oni bai iddo ganfod ar unwaith ei fod yn hen ŵr a'i ben yn wyn fel eira. Wedi edrych arno unwaith ni feddyliodd mwy amdano. Aeth popeth ymlaen fel arfer, a bu'r cwmni yno hyd adeg cau, a gadawsant yr hen foneddwr yn dal ati i ysgrifennu.

Yr oedd y gŵr dieithr yno nos drannoeth wrth ei fwrdd, ond yn darllen y noson honno a lled—ochr ei wyneb wedi ei throi at y cwmni, a heb ymddangos ei fod yn deall dim a siaradai'r Capten a'i gyfeillion yn y pen arall i'r ystafell, nac yn cymryd unrhyw ddiddordeb ynddynt. Cyn gadael y Brown Cow y noswaith honno, trodd y Capten i'r bar, a gofynnodd i Mrs. Prys pwy