Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/349

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yr hen foneddwr yn y parlwr. Ni allai Mrs. Prys roi mwy o wybodaeth ynghylch y boneddwr na'i fod yn Sais yn dyfod o'r 'Merica, ac yn ôl pob argoelion yn gyfoethog iawn,—yn bwriadu aros am ddiwrnod neu ddau,—nad oedd yn yfed dim diod feddwol,—yn dweud dim wrth neb oni fyddai raid iddo, ac yn darllen neu ysgrifennu o hyd. Ychwanegodd Mrs. Prys ei bod yn siŵr fod y dyn diarth yn ŵr bonheddig mawr, achos yr oedd ganddo aur lond ei bocedau.

"Just y dyn i mi," ebe'r Capten, ar ei ffordd adref, ond y mae o'n rhy hen i fentro, ac nid yw am aros yma ond deuddydd neu dri, ac y mae yn ditot. Welais i erioed ddaioni o'r titots yma oddieithr Enoc Huws. Maen nhw yn rhy cautious i fentro, ac felly, good bye, Yankee, not worth another thought."

Drannoeth, gwelodd y Capten yr hen foneddwr ar yr heol yn siarad â Jones y Plismon, fel pe buasai yn holi am y peth yma a'r peth arall: ac wedi edrych arno, cytunai â Mrs. Prys fod golwg boneddwr arno,—safai'n syth a chadarn ei wedd, er ei fod yn ddiamau yn ŵr pymtheg a thrigain os nad ychwaneg. Yr oedd ei wisg yn dda, a slouch hat am ei ben, ac yr oedd wedi eillio ei fochgernau yn lan, gan adael ei farf ar ei wefus uchaf a'i ên. "Real American," ebe'r Capten. Arhosodd yr hen foneddwr yn y Brown Cow amryw ddyddiau,—byddai yn ei gongl yn gyson yn darllen naill ai newyddiadur neu lyfr. Yn gymaint ag mai Sais Americanaidd oedd, ac mai Cymraeg a siaradai'r Capten a'i gyfeillion, ni theimlai'r cwmni fod ei bresenoldeb yn un cyfyngiad ar eu rhyddid. Yn gymaint hefyd â bod y gŵr dieithr yn ymddangos fel yn perthyn i gylch uwch o gymdeithas na hwy, ac yn hynod neilltuedig, ni theimlai neb o'r cwmni awydd agosáu ato, ac aeth popeth ymlaen fel arfer. Ond pe buasai un ohonynt yn ddigon craff, gallasai ganfod nad oedd y boneddwr mor hollol ddisylw o'r cwmni ag y tybid ei fod. Oblegid bob tro y byddai'r Capten yn siarad, gallesid gweled y boneddwr yn cau