Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/350

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei lygaid—nid i fyfyrio ond i wrando yn astud. Bryd arall tremiai ar y Capten dros ymyl y llyfr neu'r papur a ddarllenai. Hyn a wnâi bob tro y siaradai'r Capten, ond ni sylwai neb arno. Yr oedd y boneddwr wedi bod yn y Brown Cow wyth niwrnod. Rhwng ei brydau, cerddai yma ac acw yn y gymdogaeth. Ni wnâi gyfeillion o neb, ac ni welwyd ef yn siarad â neb oddieithr Jones y Plismon. Mae'n wir y byddai'n mynd i Siop y Groes bob dydd bron i brynu sigars, oherwydd yr oedd yn fygwr dibaid. Ond Jones, yn ôl pob ymddangosiad, oedd yr unig un oedd ar delerau cyfeillgar ag ef, ac yr oedd y Plismon wedi ei gynysgaeddu â hynny o wybodaeth a feddai am y gymdogaeth a'i phobl. Ond ni wyddai hyd yn oed Jones beth oedd busnes y boneddwr yn Bethel, ac ni wyddai Mrs. Prys hyd yn oed ei enw.

Un noswaith—nos Lun ydoedd yr oedd y Capten braidd yn hwyr yn ymuno â'r cwmni yn y Brown Cow. Tra'r oedd ef yn ymddiheuro i'r cwmni, ac yn esbonio iddynt y rheswm am ei ddiweddarwch, sef ei ohebiaethau lluosog, digwyddodd edrych i'r cyfeiriad lle'r eisteddai'r Americanwr, a gwelodd ei fod yn syllu yn ddyfal arno dros ymylon y llyfr a ddarllenai. Gostyngodd y gŵr dieithr ei lygaid ar y llyfr. Trawyd y Capten gan rywbeth, oblegid petrusodd yn ei ymadrodd a chollodd ei ddawn, peth dieithr iawn iddo ef. Wrth weled y Capten yn edrych i gyfeiriad y boneddwr, ac yn petruso, edrychodd pob un o'r cwmni i'r un cyfeiriad, ond canfyddent fod y boneddwr wedi ymgolli yn ei lyfr. Nid oedd y Capten fel ef ei hun y noson honno—yr oedd yn fwy tawedog, ac yn ymddangos fel pe buasai rhywbeth yn blino ei feddwl. Ac felly yr oedd, yn fwy cythryblus ei feddwl nag a ddychmygai neb. Ymhen ychydig funudau dywedodd yn ddistaw wrth ei gyfeillion y byddai raid iddynt ei esgusodi y noson honno—fod rhywbeth wedi dyfod drosto—nad oedd yn teimlo'n iach. Ychwanegodd fod yn rhaid ei fod wedi cael oerfel, neu ynteu ei fod wedi gweithio'n rhy galed y diwrnod hwnnw,