oblegid," ebe fe, "mewn ffordd o siarad, yr wyf yn teimlo quite yn faintish." Cynigiodd un o'i gyfeillion ei ddanfon adref, ond ni fynnai'r Capten. Pan oedd yn gadael yr ystafell, edrychodd gyda chil ei lygad ar y boneddwr, ond nid oedd ei ymadawiad yn effeithio dim ar yr hen ŵr,—yr oedd ei lygaid yn sefydlog ar ei lyfr. Synnai Mrs. Prys fod y Capten yn troi adref mor gynnar, a phan ddywedodd ef nad oedd yn teimlo'n iach, gwthiodd yr hen wreigan, yn erbyn ei waethaf, botel beint o mountain dew i'w boced, gan ei siarsio i gymryd "dropyn cynnes cyn myned i'w wely."
"'Rwyf yn ffwl, yn berffaith ffŵl! Dychymyg ydyw'r cwbl! Mae'n amhosibl! Mae fy ffansi wedi chware cast â fi heno. Ond 'doedd gen i mo'r help, er nad ydyw ond nonsense perffaith. Beth na ddychmyga cydwybod euog? Mae gen i flys mynd yn ôl,—na, 'da i ddim yno eto heno, er mai nonsense pur ydyw."
Fel yna y siaradai'r Capten ag ef ei hun wrth fyned adref. Ac erbyn cyrraedd Tŷ'n yr Ardd yr oedd ei feddwl wedi ymdawelu, ac yn llwyr argyhoeddedig fod ei ddychymyg wedi chwarae cast ag ef; ac eto, teimlai'n awyddus i gael rhywun i siarad ag ef, oblegid yr oedd yn gwmni drwg iddo ef ei hun y noswaith honno. Nid oedd Enoc Huws yn Nhy'n yr Ardd y noson honno, ond yr oedd Susi yno, a diolchai'r Capten am hynny—ni fu erioed mor dda ganddo am ei chwmni.