Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/352

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XLVIII

Cydwybod Euog

YR oedd gweled ei thad gartref rhwng naw a deg o'r gloch y nos heb ddim arwydd diod arno, a'i gael yn fwyn a charuaidd ei ysbryd, ac fel pe buasai'n ofni iddi ei adael am ddau funud, yn rhywbeth na allai Miss Trefor ond prin ei gredu, ac weithiau meddyliai mai mewn breuddwyd yr oedd hi. Rhedai ei meddwl yn ôl at yr amser pan oedd yn hogen, a phan feddyliai mai ei thad oedd y dyn gorau yn y byd, a phan garai hi ef â holl nerth ei chalon. Yr un un oedd ef o hyd, meddyliai, ond bod yr hen ddiod felltigedig yn peri iddo ymddangos fel un arall, a theimlai'n euog yn ofnadwy o euog—ei bod erioed wedi coleddu meddyliau gwahanol amdano ac wedi teimlo yn oer tuag ato. Yr oedd hynny yn amlwg; oblegid y noswaith honno yr oedd ef yn hollol fel y byddai ers talwm—yn siriol, caruaidd a chyweithas, ac yr oedd yn rhaid mai'r ddiod oedd yn ei wneud fel arall. Pa beth oedd wedi peri iddo ddyfod adref yn gynnar a sobr y noson honno—pa beth oedd wedi ei wneud fel ef ei hun—ni wyddai hi, ond deffrôdd ei holl serch tuag ato, a dyheai am roi ei breichiau am ei wddf a'i gusanu, peth na wnaethai ac na feiddiasai ei wneud ers blynyddoedd lawer, lawer. Bychan y gwyddai hi—ac yr oedd y ffaith yn rhyfedd ynddi ei hunan—mai'r cynnwrf oedd yn ei feddwl—yr ystorm oedd yn ei gydwybod, a barasai iddo ddyfod adref yn gynnar a sobr, ac a roddodd iddo ei hen fwyneidd-dra ydoedd hyn oll ond awydd dwfn am gydymdeimlad rhywun y gwyddai ei fod yn gywir, ac am rywbeth i yrru ei feddyliau oddi wrtho ef ei hun. Mewn gwirionedd, ni fu ar y Capten erioed y fath chwant ymfoddi mewn diod gadarn—yr oedd y chwant fel llew gwancus ynddo y noson honno. Ond teimlai fod angenrheidrwydd tost yn gorchymyn iddo gadw ei ben yn glir a'i galon yn ddigwsg nes iddo gael sicrwydd dios nad oedd sail i'w ofnau, a'i fod wedi ei dwyllo gan ei ddychymyg. Yr