"Nid oes gennyf ond dweud, fy ngeneth, fel y dywedais o'r blaen," ebe'r Capten: Duw a'ch bendithio'ch dau. Ond, mewn ffordd o siarad, mi welais yr amser, do, mi welais yr amser, y buasai'n o arw gennyf i neb—pwy bynnag a fuasai—gael addewid gan ferch—unig ferch—Capten Trefor, heb yn gyntaf ymliw, ac ymliw drachefn, â'i thad. Ond nid Capten Trefor ydyw Capten Trefor erbyn hyn mae pawb, ysywaeth, yn gwybod hynny, a'i ferch ei hun heb fod yn eithriad, ac wedi ymddwyn felly. Ond y mae Mr. Huws yn ffortunus—mae yn rhaid i mi ddweud hynny yn eich wyneb, Susi, ydyw yn ffortunus iawn, a 'does gennyf i, bellach, ond byw ar atgofion—atgofion hyfryd, y mae'n wir, ond nid ydynt ond atgofion—a cheisio ymfodloni i'r hyn a elwir yn fallen greatness. Ac nid y fi ydyw'r unig un a syrthiodd o ben y pinacl i'r baw. Nage. Ond nid ydyw'r hen lew wedi marw eto, ac y mae ynddo fwy o fetel nag y mae llawer yn ei ddychmygu—'dydi o ddim yn gant oed eto—a hwyrach y gwelir y Capten—gyda bendith yr Hwn a'i llwyddodd flynyddoedd yn ôl, yn rhywun gwerth ymgynghori ag ef."
Nid oedd Susi wedi disgwyl am ymadroddion brathog fel y rhai hyn, ac ebe hi, a'i geiriau fel pe buasent yn glynu yn ei gwddf:
"'Nhad, ddaru mi ddim bwriadu'ch brifo wrth beidio ag ymgynghori â chi, a mae'ch geiriau'n fy lladd. A hyd yn oed yn awr, os byddwch bob amser fel yr ydech chi heno—yn sobr, yn garedig a mwyn, mi alwaf f'addewid yn ôl, os ydech chi'n deud wrtha i am wneud hynny."
"Beth?" ebe'r Capten, "merch Capten Trefor yn torri ei haddewid? Na, fy ngeneth annwyl, pe buasech wedi rhoi'ch addewid i'r meinar tlotaf sydd yn darn lwgu yng Nghoed Madog mi fuaswn yn eich gorfodi i'w chyflawni, os buasai hynny o fewn fy ngallu. Nid ydyw torri addewid yn hanes Capten Trefor, nac yn deilwng o prestige ei deulu. Ond y mae'n rhaid i mi ddweud