Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/355

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eto fod Mr. Huws yn ddyn lwcus, ac o dan yr amgylchiadau hwyrach na allasech wneud yn well. Rhowch eich meddwl yn esmwyth, fy ngeneth annwyl, yr ydwyf, mewn ffordd o siarad, yn mawr gymeradwyo yr hyn yr ydech wedi ei wneud—yn wir, y mae'n dda gennyf feddwl y cewch fywoliaeth beth bynnag am sefyllfa, a pha beth bynnag a ddaw ohonof i, mi ymaberthaf—mae'r plwyf a'r tloty i bawb."

"'Dydw i ddim yn bwriadu'ch gadael, 'nhad, mae hynny yn ddealledig rhwng Mr. Huws a minnau. Cewch yr un fywoliaeth â minnau, ac mi wn y gellwch ddibynnu ar garedigrwydd Mr. Huws. Yn wir, yr wyf yn ystyried mai fi ac nid Mr. Huws sydd yn lwcus," ebe Susi.

"Yr wyf yn meddwl, Susi," ebe'r Capten, "os try pethau allan fel yr wyf yn disgwyl, na fydd raid i mi ddibynnu ar garedigrwydd neb pwy bynnag. Ar yr un pryd, peidiwch â meddwl fy mod yn diystyru'ch ymlyniad wrthyf, a'ch bwriadau caredig tuag ataf—hwyrach y bydd yn dda i mi wrthynt—'does neb ŵyr. Ac am Mr. Huws, yr wyf yn ei adnabod yn lled dda, ac ni bydd yn ddrwg gennyf edrych arno fel fy mab yng nghyfraith. Beth ydyw'r rheswm, Susi, na fuasai Mr. Huws yma heno? Oblegid ar ôl yr ymddiddan sydd wedi bod rhyngom, yr wyf, mewn ffordd o siarad, yn teimlo rhyw fath o hiraeth am ei weled."

"Yr oedd yn dweud bod rhywbeth yn galw amdano, ac na allai ddwad yma heno," ebe Susi.

"Wel," ebe'r Capten, "er bod yn chwith gennyf feddwl, 'does gennyf ond dweud fel o'r blaen, Duw a'ch bendithio."

Ac felly y terfynodd, yn ddigon diniwed, yr hyn yr oedd Miss Trefor wedi ei ofni yn fawr, ac wedi pryderu llawer yn ei gylch. Y gwir am y Capten oedd mai dyma'r newydd gorau y gallai ei gael—hyn yr oedd ef wedi ei ddymuno ers llawer blwyddyn, ac yr oedd ef a Mrs. Trefor wedi gwneud yr hyn oedd yn eu gallu i gyrraedd yr