Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/356

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amcan hwn—sef dyweddïo Susi ac Enoc. Ar ôl marwol—aeth Mrs. Trefor, yr oedd y Capten wedi eu gwylio yn fanwl, gan geisio rhyw arwyddion o garwriaeth, ac ar ôl methu, fel yr adroddais, mor awyddus oedd ef am i'w ferch sicrhau Enoc yn ŵr, fel na allai oddef yr ansicrwydd yn hwy heb ofyn y cwestiwn yn syth i'w ferch. A mawr a dwys oedd ei siomedigaeth pan ddeallodd nad oedd dim mwy rhyngddynt na chyfeillgarwch, na thebygol—rwydd i ddim arall fod, ac felly, nid oedd dim i'w wneud ond parhau i waedu Enoc, druan. Yn ddiweddar yr oedd y Capten yn disgwyl bob dydd glywed Enoc yn dweud na wariai geiniog yn ychwaneg ar Goed Madog—ac yna pa beth a ddeuai ohono ef—y Capten? Pwysai hyn mor ddwys ar ei feddwl weithiau, nes byddai'n dyheu am fyned i'r Brown Cow i foddi ei bryder mewn Scotch whiskey. Ond yn awr, dyma'r hyn y buasai ei galon yn hiraethu amdano ers llawer dydd wedi ei gyrraedd. Yr oedd y Capten yn adnabod Enoc Huws yn ddigon da i allu dibynnu, os oedd ef wedi addo priodi ei ferch, mai ei phriodi a wnâi yn ddi nâg, a rhoddai hyn y fath foddhad iddo na allai ei ddisgrifio, hyd yn oed iddo ef ei hun. Ystyriai'r Capten, erbyn hyn, mai ei ddyletswydd fel dyn gonest—a phwy a feiddiai amau ei onestrwydd?—oedd dweud wrth Enoc mai oferedd oedd iddo ef ac yntau wario ychwaneg o arian ar Goed Madog.

"Mi ddywedaf hynny wrtho yfory," ebe'r Capten ynddo ei hun, fy nyletswydd fel dyn gonest ydyw dweud wrtho, oblegid y mae o a minnau wedi gwario gormod yno yn barod, a 'does yno fwy o olwg am blwm nag yng nghas y cloc yna. Mae'n dda gan 'y nghalon i fod pethau wedi diweddu mor dda. Ond nid ydyw, hyn ond prawf arall fy mod yn adnabod dynion yn weddol——mi wyddwn ers blynyddoedd fod gan Mr. Huws feddwl o Susi, a diolch i Dduw ei bod mor lwcus—yr oeddwn yn dechre pryderu beth a ddeuai ohoni, druan."