Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/358

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dychwelodd y Capten yn chwim i Dŷ'n yr Ardd, a buasai bron yn amhosibl ei glywed yn agor ac yn cau'r drws, ac yn mynd i'r parlwr. Wedi mynd i'r parlwr, y meddwl cyntaf a ddaeth iddo oedd estyn y botel chwisgi o'r cwpwrdd. Eithr er ei fod wedi bod yn gaethwas i'r ddiod, yr oedd gan yr hen Gapten nerth ewyllys anghredadwy, ac ebe fe, rhyngddo ac ef ei hun:

"Na, nid heno, rhaid i mi gadw fy mhen yn glir, am dipyn, beth bynnag. Yr un diferyn, nes i mi gael sicrwydd i'm meddwl. Mi gaf glywed yfory beth ddywed Sem—fe wneith o benderfynu'r cwestiwn. Mi af i 'ngwely—i beidio â chysgu winc, mi wn. Gobeithio gan Dduw nad oes sail i'm hofnau! Ond y mae o'n debyg ofnadwy! Eto yr wyf bron yn sicr mai dychymyg ffôl yw'r cwbl. Peth dychrynllyd, wedi'r cwbl, ydyw cydwybod euog! Ond mi gaf weld beth ddywed Sem. Mae gennyf le i fod yn ddiolchgar. A chaniatáu pethau, fydd ddim yn rhaid i mi bryderu mwy am Susi—mae hi'n saff—diolch i Dduw!"

Ni chysgodd y Capten winc y noson honno. Gan ragweled hyn, yr oedd ef wedi cymryd ei bibell a'i dybaco i'w ystafell wely, a mygodd lawer, ond ni phrofodd ddiferyn o ddiod feddwol, er bod ganddo ddigonedd ohono yn y tŷ—yr oedd yn rhaid iddo gadw ei ben yn glir, a'i feddwl yn effro fel y dywedai. Meddiennid ef gan ddau deimlad—hapusrwydd diderfyn yn y rhagolwg am gael Enoc Huws yn fab yng nghyfraith, ac ofn dirfawr i'r hyn a ddaethai ar draws ei feddwl y noson honno droi allan yn ffaith. Yr oedd ystad ei feddwl yn gyfryw na allai ef ei hun, er cymaint oedd ei allu disgrifiadol, roddi gwir ddarluniad ohono. Ond fe'i cysurai ef ei hun na byddai raid iddo ddioddef yr ansicrwydd hwn yn hir—byddai i Sem Llwyd benderfynu'r peth y naill ffordd neu'r llall.

Nid aeth Sem at ei waith i Goed Madog drannoeth. Ymwisgodd yn ei ddillad Sul, a gwelid ef yn gynnar yn y bore yn gwag-symera hyd y dref, ac yn ymdroi yng