Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/359

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nghymdogaeth y Brown Cow. Yn wir, er bod Sem yn cymryd arno fod yn ddirwestwr, llithrodd fwy nag unwaith y bore hwnnw i'r Brown Cow am werth dwy geiniog pan nad oedd neb o'r Annibynwyr yn y golwg. Fel lifftenant i'r Capten Trefor yr oedd i Sem groeso mawr yn y Brown Cow, ac ymholai Mrs. Prys yn garedig am ystad iechyd y Capten. Ysgydwai Sem ei ben yn ddoeth, ac awgrymai nad oedd iechyd y Capten yr hyn y buasai ef na neb o'r mwynwyr yn dymuno ei fod, a rhoddai Mrs. Prys ochenaid a gwerth dwy geiniog i Sem am ddim.