Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/361

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ydech chi reit siŵr, Sem?" gofynnai'r Capten. "Mor siŵr â'm od i'n fyw," ebe Sem. 'Dydi'r dyn ene fawr dros ddeg a thrigen, a mi wyddoch nad hynny fase'i oed o. Dim peryg—peidiwch ag ofni—rhowch y'ch meddwl yn dawel. Mae o yn amhosib. Just meddyliwch be fase 'i oed o erbyn hyn?

"Gwir," ebe'r Capten, "ond a ydech chi'n hollol sicr, Sem?"

"Yn berffaith sicr, Capten. Fedr neb 'y nhwyllo i. 'Dydi o ddim ond dychymyg gwirion ddaeth i'ch pen chi," ebe Sem.

"Yn ddiame, Sem," ebe'r Capten, a diolch i Dduw am hynny. Yr wyf wedi cael digon o helyntion heb hyn. Yr ydech chi wedi symud baich mawr oddi ar fy meddwl i, Sem, a mae gen i ofn i'r eneth yma sylwi bod rhywbeth wedi digwydd, neu mi fuaswn yn gofyn i chi aros yma i ginio. Hwdiwch, cymerwch y goron yma, 'rwan, ac ewch i'r Gwaith y prynhawn. Mae gen i rywbeth i'w ddweud wrthoch chi ryw ddiwrnod, Sem."

Aeth Sem ymaith yn synfyfyriol, oblegid nid oedd ef lawn mor sicr ei feddwl ag y cymerai arno wrth y Capten. Ond wrth ei weled mor bryderus a chythryblus, gwnaeth ei orau i ymlid ei aflonyddwch a rhoi tangnefedd iddo, a meddyliai Sem mai gwae iddo ef y dydd pan ddigwyddai rhyw anffawd i'w hen feistr a'i gyfoed. Ac, yn wir, meddyliai Sem yn onest—er nad oedd y peth yn amhosibl —fod y Capten wedi dychrynu yn hollol ddiachos—yr oedd yn un o'r pethau mwyaf annhebygol a allasai ddigwydd. Ar yr un pryd, ni allasai Sem beidio â phondro llawer y diwrnod hwnnw, a bu ymweliad y Capten ag ef y noson cynt yn achlysur i atgyfodi digwyddiadau yr oedd ef ers amser maith wedi eu claddu yn ei fynwes,—a bu eu claddu o fantais fawr i Sem yn ei gysylltiad â'r Capten.

Teimlai'r Capten yn ddyn gwahanol wedi cael adroddiad Sem Llwyd. Yr oedd, fel y dywedodd, wedi cymryd baich trwm oddi ar ei feddwl, a thybiai, erbyn hyn, y