Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/362

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gallai gyda diogelwch gymryd glasaid o wisgi. Estynnodd y botel o'r cwpwrdd, ac yn hytrach nag i Susi gael gwybod ei fod yn ei gymryd drwy iddo alw am ddŵr, penderfynodd ei gymryd yn nêt, yr hyn, gyda llaw, nad oedd fawr gamp i'r Capten. Pa fodd bynnag, pan oedd ef wedi llenwi'r gwydr, ac ar fin ei draflyncu, daeth Susi yn sydyn i'r ystafell i ymofyn pa bryd y dymunai ef ei ginio. Edrychodd y Capten yn euog a ffwdanus, ac edrychodd ei ferch yn synedig a phrudd wrth ei weled yn ail gychwyn ar ei hen arfer felltigedig mor fore, a hithau wedi meddwl bod rhyw dro wedi digwydd iddo, a'i fod wedi penderfynu troi dalen newydd. Syrthiodd ei chalon ynddi pan welodd y botel ar y bwrdd, a'r gwydr wedi ei lenwi, ac ebe'r Capten—yn canfod yr hyn a redai drwy ei meddwl:

'Dydw i ddim yn hidio am ginio o gwbl, fy ngeneth, achos 'dydw i ddim yn teimlo, rywfodd, yn hanner iach. A dyna'r rheswm fy mod yn cymryd tropyn o whiskey yrwan i edrych a fydda'i dipyn gwell ar ei ôl. Yn wir, yr oeddwn wedi penderfynu neithiwr, er na ddwedais mo hynny wrthoch chi, peidio byth â chyffwrdd â fo. Ond y mae'r doctoriaid gorau yn tystio ei fod yn beryglus i un sydd wedi arfer cymryd tropyn bach bob dydd, ei roddi i fyny yn rhy sydyn; ac erbyn hyn yr wyf yn credu hynny, achos yr wyf yn siŵr mai dyna sydd wedi dwyn yr anhwyldeb sydd arnaf heddiw. A chyda golwg ar y cinio, yr wyf yn meddwl mai gwell i chwi wneud cwpanaid o goffi i mi; mae f'ystumog yn rhy ddrwg i gymryd dim arall. A bydaech chwi yn ffrïo tipyn o ham ac wy neu ddau—neu rywbeth arall, fy ngeneth." Gyda dweud, "O'r gorau," aeth Miss Trefor ymaith yn drist a siomedig, ac yn gwbl argyhoeddedig nad oedd "y tro mawr" wedi digwydd i'w thad eto. Ac yr oedd ei hargyhoeddiad yn berffaith gywir. Ar ginio, gofynnodd Miss Trefor i'w thad beth oedd achos ymweliad bore Sem Llwyd, ac ebe'r Capten yn barod ddigon: