Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/363

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Dod â newydd drwg i mi yr oedd Sem, druan. Y gwir yw, Susi, mae Sem a minnau erbyn heddiw yn hollol argyhoeddedig na chawn blwm yng Nghoed Madog. O ran amser a natur pethau, dylasem fod wedi ei gael cyn hyn, os oedd i'w gael o gwbl. Ond yn awr, er ein gwaethaf, yr ydym wedi rhoi pob gobaith heibio. Dyna'r penderfyniad y daeth Sem a minnau iddo'r bore heddiw. Pa fodd i dorri'r newydd i Mr. Enoc Huws, nis gwn, a mae o bron â gyrru i'n wirion, ond y mae'n rhaid ei wneud, a hynny ar unwaith. Mi wn y bydd Mr. Huws yn amharod i roi'r Gwaith i fyny, oblegid —welais i neb erioed â'r fath ysbryd mentro ganddo. Ond y mae'n rhaid i mi arfer fy holl ddylanwad i'w berswadio i roi'r lle i fyny, achos y mae fy nghydwybod yn dweud wrthyf mai dyna ydyw fy nyletswydd. Ac, yn wir, fedra i fy hun ddim fforddio gwario dim chwaneg—yr wyf yn teimlo ei fod yn dechre dweud ar f'amgylchiade. A fydde fo niwed yn y byd, Susi, bydae chwithau'n dweud gair wrtho i'r un perwyl."

Yr oedd Susi yn gweled drwy bethau yn well o lawer nag y tybiai ei thad. Canfu ar unwaith mai'r hyn a ddywedasai hi wrtho y noson cynt, sef ei bod wedi addo priodi Enoc Huws, oedd y rheswm dros roddi Coed Madog i fyny. Da oedd ganddi glywed hyn, oblegid credai ers llawer o amser na ddeuent byth i blwm yng Nghoed Madog. Ac wrth feddwl y byddai hi ac Enoc ymhen ychydig wythnosau yn ŵr a gwraig, yr oedd penderfyniad ei thad i daflu'r Gwaith i fyny yn dderbyniol iawn ganddi, canys gwyddai fod Enoc yn gwario wmbreth o arian bob mis ar y fentar. Cydsyniodd â phenderfyniad ei thad, a chanmolai yntau ei gallu i ganfod natur pethau.

Eglur ydoedd nad oedd llawer o amhariad ar ystumog y Capten, ac nid aeth ef allan o'i dŷ y diwrnod hwnnw, am nad oedd ynddo duedd i fynd i'r Brown Cow oherwydd rhesymau penodol, a hefyd am ei fod yn awyddus i gael siarad ag Enoc, a fyddai'n sicr o ymweled â Thŷ'n yr Ardd y noson honno. Daeth Enoc i'w gyhoeddiad