Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/366

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i ddyfod i'r un penderfyniad. Ond a ydych yn ddig wrthyf? a ydych yn fy ffieiddio ac yn fy nghasáu â chas perffaith a thragwyddol, Mr. Huws?

"Yr ydwyf wedi ymddiried ynoch o'r dechre, fel y gwyddoch, Capten Trefor," ebe Enoc, "ac os ydych yn credu mai taflu'r cwbl i fyny fyddai ore, popeth yn iawn. Mae'r gore ohonom yn gwneud camgymeriadau, a rhaid i'r dyn sydd yn mentro edrych am siomedigaethau a cholledion weithiau. 'Does dim help, os fel yna y mae pethau'n sefyll, a 'dydw i'n hidio 'run grôt am roi'r Gwaith i fyny os nad oes obaith yno am blwm."

"Yr ydych yn fy lladd â'ch caredigrwydd, Mr. Huws," ebe'r Capten, gan roddi ei wyneb rhwng ei ddwylo, ac fel pe buasai yn ceisio crio, "ond yr arian! wmbreth, yr ydych wedi eu gwario, Mr. Huws bach!"

"'Does dim help am hynny," ebe Enoc, " a pheidiwch â gofidio, 'dydw i ddim wedi gwario'r cwbl eto.'

"I Diolch i Dduw am hynny," ebe'r Capten, heb dynnu ei ben o'i ddwylo. "Yr oedd dinistrio Denman, druan, yn ddigon heb eich dinistrio chwithau hefyd. Ond yr wyf wedi bod yn onest ar hyd yr amser, Duw a ŵyr!"

"'Does neb yn amau hynny," ebe Enoc, "oblegid yr ydych wedi'ch colledu eich hun, ac y mae'r siomedigaeth yn gymaint i chwi ag i minnau. Nid y ni ydyw'r rhai cyntaf i fethu, ac ofer gofidio am yr hyn na all neb wrtho."

Yr oedd y Capten wedi cyrraedd ei amcan, ac ar ôl siarad cryn lawer yn yr un cwrs, gan ddatgan drosodd a throsodd drachefn ei ofid am fod ffawd wedi myned yn ei erbyn, nes llwyr ennill cydymdeimlad Enoc, ebe fe pan oedd Enoc ar fin cychwyn abref:

"Mr. Huws, mae Susi wedi dweud rhywbeth wrthyf sydd yn rhyw gymaint o olew ar friw fy siomedigaeth ynglŷn â'r Gwaith—hynny ydyw, yn fyr, rhag i mi eich cadw, eich bod wedi ymserchu yn eich gilydd, ac nid ydyw hynny yn beth i ryfeddu ato, ac y bydd hynny'n diweddu ryw ddiwrnod—fel y mae'r cyfryw bethau yn gyffredin yn diweddu—yn eich gwaith yn myned at eich