Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/367

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gilydd. A pha beth bynnag a ddaw ohonof i yn fy hen ddyddiau, wedi fy ngadael yn unig, mae'n rhaid i mi ddweud bod yr hysbysrwydd wedi fy llonni nid ychydig, oblegid y mae'n rhy hwyr ar y dydd i mi astudio fy interest fy hun, a bydd gweled f'unig ferch yng ngofal dyn sobr, da, caredig a chwbl alluog i'w chadw uwchlaw angen, a dweud y lleiaf, yn help i mi pan ddaw'r adeg—ac o angenrheidrwydd ni all fod ymhell—i arfer y geiriau ysbrydoledig, os goddefwch i mi ddweud felly: Yr awr hon y gollyngi dy was mewn tangnefedd.' Bydd yn dda gennyf feddwl amdanoch fel fy mab yng nghyfraith a bod fy merch wedi digwydd mor lwcus, ond cofiwch y byddaf yn ystyried eich bod chwithau yr un mor lwcus."

"Diolch i chwi am eich syniadau da amdanaf," ebe Enoc, "mi wnaf fy ngore i fod yn deilwng ohonynt. Mi wn na ellwch ddweud dim yn rhy dda am Miss Trefor—y hi ydyw'r eneth ore yn y byd yn ôl fy meddwl i. A chyda golwg ar gael eich gadael yn unig, y mae hynny allan o'r cwestiwn. Os bydd hynny yn foddhaol gennych chwi, Capten Trefor, cewch gyd—fyw â mi weddill eich dyddiau, a mi wnaf yr hyn fydd yn fy ngallu i'ch gwneud yn ddedwydd."

"Yr ydych, meddaf eto, Mr. Huws, yn fy lladd â'ch caredigrwydd. Ond hwyrach na fydd arnaf angen rhyw lawer o ofal na charedigrwydd neb. Man proposes, God disposes'—ond cawn siarad am hyn eto."

A oedd y Capten ynteu, fel Saul, ymhlith y Proffwydi? Ar ôl treulio ychydig amser yng nghwmni Miss Trefor, aeth Enoc adref yn ddyn dedwydd—mor ddedwydd fel na wyddai pa fodd i ddiolch digon am ei ddedwyddwch.