Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/368

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD L

Y "Fentar" Olaf.

FORE drannoeth, anfonodd y Capten air at Sem Llwyd, yn ei orchymyn i hysbysu gweithwyr Coed Madog y byddid, oherwydd rhyw resymau penodol, yn rhoi terfyn ar y Gwaith ddiwedd yr wythnos honno, ac na byddai eu gwasanaeth yn angenrheidiol hyd nes y caent air ymhellach. "Ond cofiwch," ebe'r Capten mewn ôl nodyn, "na chewch chwi, Sem, fod mewn angen tra bydd gennyf i geiniog." Newydd drwg oedd hwn i'r gweithwyr, ond nid oedd ond yr hyn y buasent yn ei ddisgwyl ers tro, a synnent yn aml eu bod wedi cael mynd ymlaen am gyhyd o amser.

Ni wnaeth y Capten ddim, "mewn ffordd o siarad," am ddeuddydd ond myfyrio ar a chynllunio gogyfer â phriodas ei ferch. Ac yr oedd ganddo'r fath ffydd yn ei allu i drefnu pethau fel yr oedd yn benderfynol y mynnai gael ei ffordd ei hun i gario allan amgylchiadau'r briodas yn y fath fodd ag oedd weddus i sefyllfa'r briodas-ferch, ac a roddai anrhydedd ar y digwyddiad yng ngolwg ei gymdogion. Nid oedd am arbed cost na thrafferth. Yr oedd ei sefyllfa ef ei hun ymhlith ei gymdogion yn gofyn rhoi urddas ar yr amgylchiad, ac yr oedd gan Mr. Huws ddigon o fodd i dalu'r gost. Yr oedd ef yn hynod o ddedwydd ac yn neilltuol o fwyn gyda Miss Trefor, ac yn ei dretio ei hun yn fynych â gwydraid o wisgi—yr oedd hynny yn gweddu i'r amgylchiadau yn nhyb y Capten. Carasai fyned i'r Brown Cow at ei hen gymdeithion, a rhoi awgrym cynnil iddynt am y digwyddiad mawr oedd i fod yn bur fuan. Ond yr oedd am aros nes i'r dieithryn fynd ymaith, canys yr oedd yn gorfod cyfaddef, wrtho ei hun, fod wyneb y gŵr hwnnw yn ei atgofio am rywbeth y buasai'n well ganddo beidio â meddwl amdano. Gyda chryn aberth yr oedd y Capten wedi aros yn y tŷ am ddau ddiwrnod a dwy noswaith. Y drydedd noswaith daeth drosto'r fath hiraeth am