gwmni'r Brown Cow, fel na allai ei wrthsefyll, "ac yn sicr," ebe'r Capten, "y mae yr hen ŵr hwnnw wedi mynd bellach." Ac i'r Brown Cow yr aeth, lle y cafodd groeso cynnes, a mawr oedd yr holi am ei iechyd. Ond er ei fawr siomedigaeth, yr oedd yr hen ŵr penwyn yn ei gongl, ac yn ymddangos yn hollol anymwybodol o ddyfodiad y Capten i'r ystafell, ac fel arfer, wedi ymgolli yn ei lyfr. Ar ôl cael tystiolaeth Sem Llwyd, ac, yn wir, wedi iddo ef ei hun ail edrych arno, nid oedd mor debyg ag y tybiasai'r Capten ei fod y tro cyntaf yr edrychodd arno. Eto yr oedd y gŵr dieithr yn ei atgofio am un arall, ac yn ei wneud yn anghyfforddus. Nid arhosodd y Capten yn hwyr yn y Brown Cow y noson honno, a phan ddaeth adref, sylwai Miss Trefor ei fod yn edrych yn brudd a phryderus—yn gwbl wahanol i'r hyn a fuasai ers deuddydd. Pan ofynnodd hi am yr achos o'i brudd-der, ebe fe:
"'Chlywsoch chwi mo'r newydd, Susi?"
"Pa newydd?" ebe hi.
"Mae'r hen Hugh Bryan, druan, wedi marw," ebe'r Capten.
"Beth? yr hen Mr. Bryan? O diar! O diar!" ebe Susi, a rhuthrodd i'w meddwl fil o bethau. Ond Wil Bryan oedd y gwrthrych cyntaf a ddaeth i'w meddwl. Pa le yr oedd ef? a ddeuai ef adref i gladdu ei dad? pa fath un oedd erbyn hyn? a oedd mor olygus? sut y gallai hi ei wynebu? Pan oedd y pethau hyn yn rhedeg drwy ei meddwl curodd rhywun ar y drws, ac aeth hithau i'w agor. Yr oedd yn noswaith leuad olau, a gwelai Susi, wedi iddi agor y drws, hen foneddwr parchus a phenwyn. Eisiau gweled Capten Trefor oedd arno. Arweiniodd Susi ef i'r parlwr at ei thad, a da oedd ganddi fod rhywun wedi dyfod i ymofyn amdano, er mwyn iddi gael amser i redeg i edrych am yr hen Mrs. Bryan, oblegid ni allai Susi anghofio'r amser gynt. A da iddi hefyd fod y meddwl hwn ganddi, onid e buasai'n rhwym o sylwi, pan aeth yr hen foneddwr i'r parlwr, fod wyneb ei