Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/373

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

daring c —— Wel, nid enwaf y. gair. Nid arteithiaf eich teimladau, ac achosi poen afreidiol i chwi drwy ddisgrifio'r hyn a fûm, a'r hyn yw fy sefyllfa yn awr. Yn wir, yr wyf yn amau a ddylaswn ddweud cymaint â hyn wrthych, ond ni fedrwn ymatal heb ddweud rhywbeth wrthych, am y tro olaf, fel yr wyf yn gobeithio. Yr hyn sydd yn rhwygo fy nghalon waethaf os oes gwaethaf amdani—ydyw na all Mr. Huws, dan yr amgylchiadau a ddaw i'r golwg, mo'ch priodi; mae hynny'n amhosibl, ac y mae meddwl beth a ddaw ohonoch, f'annwyl Susi, yn rhoi fy enaid ar dân. Eto, yr wyf yn gobeithio y bydd ef yn garedig atoch—ni all beidio. Duw a'i bendithio ef a chwithau.

"Wrth gwrs, os byddaf byw yn y bore, ac yn fy synhwyrau, ni chewch weled y llythyr hwn; ond os marw fyddaf—a gobeithiaf mai felly y cewch fi—darllenwch o i chwi eich hun, a chedwch ei gynnwys i chwi eich hun, a llósgwch o. Ac yn awr, f'annwyl Susi, ffarwel am byth, mi obeithiaf.

Eich tad drwg ac annheilwng,
RICHARD TREFOR.

O.Y. Os bydd ar eich llaw, ryw dro, wneud rhyw gymwynas i Sem Llwyd, gwnewch; bu'n ffyddlon iawn i mi.—R.T.

Yr oedd llygaid Miss Trefor wedi pylu cyn iddi orffen darllen y llythyr, ac megis heb yn wybod iddi ei hun, taflodd ef i'r tân. Yr oedd y llythyr yn fflamio pan ddychwelodd Kit i gael Miss Trefor ar ei hyd ar lawr, ac yn sibrwd yn drist: "O! Mr. Huws, lle mae Mr. Huws, Kit bach? "

"Mae Mr. Huws yn sâl iawn yn ei wêly, a rhyw ŵr bonheddig a'r doctor wedi bod efo fo drwy'r nos," ebe Kit dan wylo.

Ergyd arall i Susi, druan, ac er cymaint oedd ei hunan—feddiant yn gyffredin, daeth niwl dros ei llygaid, ac ni wybu ddim oddi wrthi ei hun nes ei chael ei hun yn hwyr y prynhawn hwnnw yn ei gwely, a Kit a rhyw gymdoges yn ei gwylio.

Diwrnod prudd oedd hwnnw yn Bethel, fel yr adroddwyd yn ddoniol gan Didymus yn y County Chronicle yr wythnos wedyn, yr wyf yn cofio'n dda: Mewn un tŷ, gorweddai corff marw yr hen Huw Bryan,—gŵr a fuasai unwaith yn fasnachwr parchus a llwyddiannus, ond wrth fentro am blwm a wariodd ei holl eiddo, a llawer