Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/374

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o eiddo pobl eraill, ond, wedi hynny, drwy ymroddiad a llafur mawr, a chynhorthwy ei fab caredig, a dalodd bob ffyrling o'i ddyledion, ac a fuasai fyw ar ychydig yn ddedwydd a dibryder. Mewn tŷ arall, gorweddai'r hyn oedd farwol o'r enwog Capten Trefor—gŵr hynod am ei uniondeb, ei garedigrwydd, a'i ddylanwad, ac un a wnaethai lawer o les i'r ardal drwy hyrwyddo specula—tions a rhoi gwaith i bobl,—gŵr ag yr oedd ei barch mewn rhai cylchoedd yn ddiderfyn, a disgwyliadau lluoedd yn hongian wrtho am flynyddoedd oedd i ddyfod, ond a gymerwyd yn sydyn oddi wrth ei waith at ei wobr! Ac mor brydferth! fel y dywedai rhai o'i edmygwyr,—ei gymryd ymaith yn ei gwsg! Sudden death, sudden glory! A pha ryfedd—gan mor sydyn fu'r amgylchiad—i'w ferch brydferth gael ei tharo i lawr, megis? A pha ryfedd, hefyd, fod yr hwn—pe buasai'r Capten wedi byw dim ond ychydig o wythnosau yn hwy—a fwriadai ei annerch fel ei dad yng nghyfraith, ei fod yntau, hefyd, wedi ei lorio gan y digwyddiad difrifol? Yr oedd gofid yr ardal a'r wlad oddi amgylch yn fawr a dwys. Ond ni allai na ddôi'r cyfryw anffodion weithiau—ni ellir eu rhwystro.

Drannoeth, o gryn bellter, yr oedd y trên yn cludo un i Bethel—nid i ddadwneud pethau, yr oedd hynny yn amhosibl—ond i roi ychydig o olew ar yr amgylchiadau adfydus.