Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/375

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD LI

Yr Americanwr

Yn awr, er mwyn egluro'r bennod ddiwethaf, ac, yn wir, er mwyn taflu ychydig oleuni ar holl ddigwyddiadau'r hanes hwn—hanes y mae'n bryd i mi bellach ei ddwyn i derfyniad rhaid i mi adrodd yr hyn a ddigwyddodd rhwng yr Americanwr ac Enoc Huws y noswaith y bu farw Capten Trefor. Yn ystod ei arhosiad yn y Brown Cow yr oedd y gŵr dieithr, fel y dywedwyd o'r blaen, yn arfer galw bron bob dydd yn Siop y Groes i brynu sigârs, a llawer ymgom ddifyr a fu rhwng Enoc ac yntau. Eglur oedd ei fod yn ŵr oedd wedi gweled cryn lawer o'r byd, a dysgai Enoc rywbeth ganddo bob tro y siaradai ag ef. Ond prif destun eu hymddiddan bob amser fyddai'r America, a chyda pha bwnc bynnag y dechreuent, gofalai'r hen foneddwr am ddiweddu gyda "gwlad fawr y Gorllewin." Yr oedd ef wedi siarad cymaint am y wlad, ac mor ganmoliaethol, nes bod Enoc bron ag anesmwytho am fynd yno, ac oni bai am ryw amgylchiadau gwybyddus iddo ef ei hun, diau mai penderfynu mynd i'r America a wnaethai. Yn gynnar fore'r diwrnod y buasai'r hen foneddwr yn ymweled â Chapten Trefor, yr oedd ef wedi amlygu dymuniad am gael awr o ymddiddan ag Enoc ar bwnc o fusnes wedi iddo gau'r siop. Ystyriai Enoc hyn yn gryn anrhydedd, a gwahoddodd y gŵr dieithr i swper y noson honno, a derbyniodd yntau'r gwahoddiad yn ddiolchgar. Yn ôl gorchymyn Enoc parotôdd Miss Bifan swper nad oedd eisiau ei well, oblegid yr oedd hi yn eneth fedrus. Fel yr adroddwyd, aeth yr hen foneddwr yn syth o Dŷ'n yr Ardd i Siop y Groes, ac yn ystod y swper ymgomiai Enoc ac yntau am y peth yma a'r peth arall, yn ddifyr ddigon. Wedi gorffen y swper, ac i'r ddau danio eu sigars, ebe'r boneddwr—a dyma'r gair cyntaf o Gymraeg a glywsai Enoc ganddo, ac agorodd