edrych i mewn i'm llyfrau. Gwelais yn union nad oedd. popeth wedi ei gario 'mlaen yn syth, a gwelodd y gŵr ieuanc y soniais amdano fy mod wedi canfod hynny. Ni ddaeth ef i'r offis fore drannoeth, a phan wneis ymholiad amdano, cefais ei fod wedi gadael y wlad. Creodd hyn amheuaeth ynof, ac ymroddais i chwilio ddydd a nos i'r amgylchiadau. Yn fuan iawn cefais allan fod y gŵr ieuanc yr oeddwn bob amser yn meddwl cymaint ohono wedi fy nhwyllo o dri chant o bunnau. Yr oedd yn hwyr ar y nos arnaf yn dychwelyd adref wedi darganfod hyn, ac yr oeddwn, fel y gellwch ddychmygu, wedi dychrynu a ffyrnigo, a'm bwriad oedd rhoi'r achos yn llaw'r plismyn ar unwaith. Dywedais y cwbl wrth fy merch, oblegid wrthi hi yn unig y gallwn siarad am y peth ar y pryd. Dychrynodd yn fawr, a rhoddodd ei breichiau am fy ngwddf a chrefodd dan wylo yn hidl am i mi beidio â sôn wrth neb am y peth—nad oedd tri chant o bunnau yn llawer i mi, ac am i mi gofio ei holl wasanaeth a'i ffyddlondeb. Gwrandewais arni, ond bychan a wyddwn i y pryd hwnnw y rheswm am ei phleidgarwch iddo. Winciais ar y cwbl, ac ni chlywodd neb air am y peth o'r dydd hwnnw hyd heddiw, oblegid ni allwn omedd unrhyw ddymuniad o eiddo fy merch—y hi oedd fy mhopeth yr adeg honno. Ond nid oedd cwpan fy ngofidiau wedi ei lenwi eto. Yr oedd y brofedigaeth chwerwaf—a'r hon oedd yn fwy, yn anhraethol fwy na'm holl brofedigaethau eraill gyda'i gilydd yn f'aros. Ni fanylaf. Ond ceisiwch ddychmygu fy nheimladau pan, un diwrnod, y deuthum i ddeall nad digon gan y gŵr ieuanc oedd lladrata tri chant o bunnau oddi arnaf, heb dwyllo a darostwng fy merch. Yr oedd ŵyr bach i mi wedi ei eni cyn i mi wybod na drwgdybio dim. Bu agos i mi ddrysu yn fy synhwyrau, a bûm yn diolch filoedd o weithiau nad oedd y dihiryn a fu'n achos o'r holl ddrwg o fewn fy nghyrraedd, onid e yr wyf yn sicr y buaswn wedi ei lindagu, hyd yn oed pe gwybuaswn y cawswn fy nghrogi drannoeth. Nid edrychais ar fy
Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/377
Gwedd