Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/378

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

merch ac ni siaredais â hi am fis. Yr oeddwn yn ynfyd, mi wn, a pha boen a achosodd hynny iddi hi a minnau wedyn, Duw yn unig a ŵyr! Yn wir, achos rhaid i mi ddweud y cwbl wrthych, ni siaredais air byth â hi. Mi eis i'w golwg ychydig o funudau cyn iddi farw; ac mor brydferth oedd hi hyd yn oed yng nghrafangau angau! (ac yn y fan hon eto torrodd yr hen foneddwr i lawr, ac nid oedd Enoc damaid caletach). Crefodd arnaf faddau iddi, a dywedodd eiriau eraill na all fy nheimladau—er bod oddi ar hynny dair blynedd ar ddeg ar hugain—oddef i mi eu hadrodd. Yr oeddwn fel ffŵl, yn ystyfnig! Ond cusenais hi ddwywaith, ac yr wyf wedi diolch i Dduw filoedd o weithiau am i mi wneud hynny. Fy unig gysur, erbyn hyn, ydyw. Cymerodd fy merch hyn fel arwydd fy mod yn maddau iddi—ymdaenodd gwên nefol dros ei hwyneb annwyl, ac ehedodd ei hysbryd ymaith. Am beth amser yr oeddwn fel dyn gwallgof, ac yn fy ngwallgofrwydd gwerthais bopeth oedd ar fy helw. Wedi rhoi'r plentyn dan ofal rhyw hen wreigan, a rhoi rhywbeth iddi am ei thrafferth—dim chwarter digon—euthum i'r America. Ond methais adael fy ngofidiau ar ôl yng Nghymru—yr oeddynt gyda mi yno yr un fath yn union. Gwelais mai'r unig feddyginiaeth i mi oedd ymroi i fusnes,—yr oeddwn wedi arfer bod â'm holl fryd mewn busnes. Ymhen amser, bu hyn yn waredigaeth i mi oddi wrth fy nhristwch, oddieithr fel y deuai yn awr ac yn y man ar hyd y blynyddoedd fel cawod arnaf. Yr oedd gennyf dipyn go lew o arian yn mynd i'r America, a gwneis lawer yno gyda'm busnes. Oddeutu naw mis yn ôl, rhoddais y busnes heibio—yr oedd fy oed yn galw am i mi wneud hynny—teimlwn nad oeddwn fel cynt, gan fwriadu byw ar f'eiddo yn ddedwydd. Ond ni fedrwn; ac er gwneud pob dyfais, nid oeddwn yn hapus. Yr oeddwn yn cael mwy o amser i feddwl am yr hen bethau. O'r diwedd, penderfynais ddychwelyd i Gymru i ymholi am fy ŵyr, os oedd o'n fyw. Meddyliwn mai dyna'r unig ad-daliad a allwn