"Nid oes un creadur byw yn gwybod am yr amgylchiadau yr wyf wedi eu hadrodd wrthych, fy machgen, ac y mae y Capten,' chwedl pobl yr ardal yma, wedi tewi am byth, ac er eich mwyn chwi, ac er mwyn ei ferch, rhaid i ni gadw y cwbl i ni ein hunain. Wrth gwrs, ni allwn beidio ag egluro rhyw gymaint, mewn ffordd ddoeth, i Miss Huws—hynny ydyw i Miss Trefor,—a rhaid i ni wneud rhyw ddarpariaeth ar ei chyfer oherwydd y cysylltiad sydd wedi bod rhyngoch chwi a hi. Mae'n dda gennyf ddeall ei bod yn eneth gall, ac y gŵyr pa fodd i ymddwyn pan ddaw i ddeall pethau, os nad ydyw ei thad wedi ei hysbysu ohonynt eisoes wedi i mi fod yno neithiwr."
Ceisiodd Enoc ymwelláu orau y gallai er mwyn mynd i gysuro Miss Trefor, a gwnâi ei daid hefyd ei orau iddo, oblegid, erbyn hyn, yn Siop y Groes yr arhosai'r hen ŵr. Methodd Enoc â bod yn ddigon cryf i fynd allan hyd ddydd claddedigaeth y Capten. Ond ni adawyd Susi yn unig. Yr oedd yno ŵr ieuanc arall ers deuddydd yn bur ofalus ohoni, ac er ei fod wedi dyfod adref ar amgylchiad galarus iddo ef, yr oedd wedi gweinyddu llawer o gysur iddi. A oedd Susi yn anffyddlon i Enoc? Dim perygl. Yr oedd ei gair cystal â chyfraith. Ond yr oedd Wil mor garedig, ac mor deg ei olwg, a chanddo gymaint i'w ddweud, ac mor, ac mor, etc., etc.
Yr oeddid wedi bwriadu claddu'r Capten a Hugh Bryan yr un dydd, ond oherwydd bod y cyntaf yn "chwyddo," bu raid ei gladdu ddiwrnod yn gynt. Gan adael ei daid gyda bocs o sigârs yn ei ymyl ym mharlwr Siop y Groes, ymlwybrodd Enoc gydag anhawster i Dy'n yr Ardd erbyn yr adeg yr oedd y cynhebrwng i fod. Wrth gwrs, gyda theimladau newydd a rhyfedd yr aeth ef yn ei flaen i edrych am Miss Trefor, ac ni synnwyd ef yn fwy yn ei fywyd na phan gafodd hi yn y parlwr bach yn eistedd ar y soffa fel delw a'i llaw yn llaw Wil Bryan, a eisteddai wrth ei hochr. Cyn gynted ag y daeth