Enoc i mewn, tynnodd Susi ei llaw yn rhydd, ac edrychodd yn syth yn ei wyneb, fel pe buasai'n ceisio dweud: "Peidiwch ag amau, Mr. Huws, yr wyf yn dal yn ffyddlon i chwi." Gwasgodd ei law yn dynn a thorrodd i wylo'n hidl, ac ebe hi, dan hanner tagu, gan gyfeirio at Enoc: "Wil, dyma'r dyn gore yn y byd."
Ysgydwodd Enoc a Wil ddwylo yn garedig, oblegid, erbyn hyn, nid oedd mymryn o eiddigedd ym mynwes Enoc at Wil, ac yr oedd Wil yntau yn ddigon o foneddwr, wedi clywed gan ei fam fod Susi ac Enoc yn mynd i'w priodi, i deimlo yn dda a chynnes ato. Ond cyn iddynt gael siarad ychydig eiriau, dyna gythrwfl a thrwst cario'r arch i lawr o'r llofft, a rhywun yn 'nôl cadeiriau, a Mr. Brown, y person, gyda'i lyfr wrth y drws. Cerddai Wil ac Enoc gyda'i gilydd yn y cynhebrwng, a theimlai'r olaf mor eiddil a diolwg oedd ef yn ochr Wil, a chymaint gwell match i Susi a fuasai Wil nag ef. Meddyliai Wil am yr hen Gapten yr oeddynt y diwrnod hwnnw yn ei gludo i'w hir gartref y fath newid a fyddai iddo orfod bod yn ddistaw, ac os nad oedd wedi "altro yn arw" er yr amser yr adwaenai ef, teimlai Wil yn sicr mai'r peth cyntaf a wnâi yr hen Drefor—pa le bynnag yr ydoedd yn y byd arall fyddai ceisio perswadio rhywun i "specilêtio." Ysytriai Wil yn onest y byddai gwell siawns i'r giaffer—hynny ydyw ei dad, y byddid yn ei gladdu drannoeth—am promotion nag i'r Capten. Wrth gwrs ni ddywedodd hyn, ond pethau tebyg i hyn a redai drwy feddwl Wil yn y gladdedigaeth.
Pan oeddynt yn sefyll o amgylch y bedd, a Mr. Brown yn datgan gwir ddiogel obaith am fuchedd dragwyddol i'w annwyl frawd, digwyddodd Wil godi ei ben, a phwy a welai, yn ei lân drwsiad, ar ei gyfer, ond Thomas Bartley. Yr oedd Thomas, gan ystyried bod y gymdogaeth wedi cael gwaredigaeth fawr y diwrnod hwnnw, wedi dyfod allan yn ei orau i'r claddu—sef yn y siwt a wisgai pan aeth i'r Bala i edrych am Rys Lewis. Nid oedd y dres côt las yn edrych bin gwaeth, ac yr oedd y