Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwyddoch pa fath dŷ oedd gennym y pryd hwnnw. Nid tŷ a stabal a coach-house oedd o, ai e? 'Doedd gennym yr un ceffyl a thrap, na gwas na morwyn. yn y sêt orau yn y capel yr oeddem yn eistedd y pryd hwnnw, ai e? Nid yr un un oeddwn innau yr adeg honno ag ydw i heddiw. Nid yr un un oedd Richard Trefor, Williams' Court, a Capten Trefor, Ty'n yr Ardd. Yr oedd gan Richard Trefor, pan eisteddai ar y fainc yn y capel, dipyn o gydwybod—câi dipyn o flas ar foddion gras. Faint o flas sydd gan Capten Trefor ar yr Efengyl yn y sêt â'r glustog arni? 'Ddaeth o 'rioed i'ch meddwl chi, Sarah, faint a gostiodd i Richard Trefor ddyfod yn Gapten Trefor! Mi wn fy mod wedi cadw'r cwbl oddi wrthoch chwi ar hyd y blynyddoedd, rhag eich blino. Yr oeddwn ar fai. Ond fedra' i mo'i gadw ddim yn hwy. 'Does dim ond dinistr yn ein haros," a dechreuodd y Capten ysgafnhau ei gydwybod. Ond cyn gwneud hynny cymerodd ddogn cryf o'r Scotch Whiskey.