Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VIII

Ysgafnhau ei Gydwybod.

PAN gychwynnais Bwll y Gwynt," ebe'r Capten, 'mae'r nefoedd yn gwybod fy mod yn gobeithio iddo droi allan yn dda, ac yr oedd y miners mwyaf profiadol yn credu y gwnâi. Yr oedd yn y Gwaith olwg " ragorol. Ni chefais, fel y gwyddoch, unrhyw anhawster i hel cwmpeini. Gyda chymorth Mr. Fox, o Lunden, fe ddarfu i ni berswadio llawer o bobl ariannog i ymuno â'r cwmpeini, a chwi wyddoch, Sarah, fel y darfu i amryw o'n cymdogion, megis Hugh Bryan ac eraill, eu tlodi eu hunain er mwyn cael shares yn y Gwaith, ac yr oeddwn innau yn rhoi ar ddeall iddynt fy mod yn gwneud ffafr fawr â hwynt drwy adael iddynt gael shares am unrhyw bris. Mor lwcus oeddwn yng ngolwg pobl, ac yn fy ngolwg fy hun! Mor fuan y dechreuodd y rhai fyddai'n fy ngalw yn Richard fy syrio a'm galw yn gapten! Mewn ffordd o siarad, mi eis i'r gwely un noswaith yn feinar cyffredin, a chysgais a deffroais yn y bore yn Gapten Trefor!—yn ŵr o barch a dylanwad—yn un yr oedd pobl yn ceisio dyfod i'w ffafr—yn un â llawer o ffafrau yn ei law i'w cyfrannu i'r neb a fynnwn—yn un yr oedd pobl yn cymryd yn garedig arnaf dderbyn anrhegion gwerthfawr ganddynt! Nid oedd brin undyn yn y dref a wrthodai unrhyw beth a ofynnwn ganddo. Yr ydych yn cofio, Sarah, i mi ddweud, dim ond dweud, wrth Mr. Nott, yr Ironmonger, fy mod yn hoffi ei geffyl, a thrannoeth, gwnaeth anrheg i mi ohono, oblegid gwyddai Mr. Nott yn burion y gallwn roddi ambell geffyl yn ei ffordd ef os dymunwn. Talodd yr anrheg honno yn dda i Mr. Nott. Nid oedd eisiau i mi ddim ond edrych ar wn neu debot arian yn siop Mr. Nott, a byddai yma drannoeth with Mr. Nott's compliments! A llawer eraill yr un modd. Pan aeth Ty'n yr Ardd yn wag, yr oedd