Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

paradise. Yr ydym yn dlawd, dalltwch y fact yna. Mae dialedd o arian wedi mynd trwy fy nwylo; ond 'does dim bendith wedi bod arnynt—maent wedi mynd i rywle, a chwi wyddoch eich dwy lle mae llawer ohonynt wedi mynd. Waeth i ni edrych ar y ffaith yn ei hwyneb—yr ydym yn dlawd, ac fe fydd Pwll y Gwynt â'i ben ynddo cyn pen y mis."

“O mam!” gwaeddai Miss Trefor.

"Mamiwch chi fel y mynnoch," ebe'r Capten, rhyngoch chi a fi, miss, fe ddylsech chi fod yn fam eich hun cyn hyn, yn lle rhoi'r fath airs i chwi eich hunan. Rhaid i chi ddyfod i lawr beg neu ddau a chymryd rhywun y gellwch gael gafael arno, pe na byddai ond miner cyffredin."

The idea, tada!" ebe Miss Trefor.

The idea'r felltith! ydech chi ddim yn rialeisio eich sefyllfa? oes dim posib pwnio dim yn y byd i'ch pen chwiban chi?" ebe'r Capten, wedi colli ei dymer eilwaith.

Richard," ebe Mrs. Trefor yn bwyllog, "cedwch eich tempar. Os dyna ydi ein sefyllfa—os tlawd yden ni, ar ôl yr holl flynyddoedd o gario 'mlaen, be ydech chi'n feddwl neud?"

'Dyna chi, yrwan, Sarah," ebe'r Capten, " yn siarad fel gwraig synhwyrol. Dyna ydyw'r cwestiwn, Sarah. Wel, dyma ydyw fy mwriad—cadw yr appearance cyd ag y medraf, a dechrau gwaith newydd gynted ag y gallaf."

Ar hyn curodd rhywun ar y drws.