Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IX

Cyfrinachol.

"WEL, dyma Mr. Denman!" ebe'r Capten," soniwch am —— ac y mae o'n siŵr o ymddangos. Yr oeddem just yn siarad amdanoch yrwan."

"Beth wnaeth i chi siarad amdana' i?" gofynnai Mr. Denman.

"Wel," ebe'r Capten, "deud yr oeddwn i—ond dyma chwi, Mr. Denman, fe awn ni i'r smoke room, fe fydd yn dda gan y merched yma gael gwared ohonom."

Wedi i'r ddau fyned i'r smoke room, ychwanegai'r Capten :

"Ie, dyna'r oeddwn i yn 'i ddeud, Mr. Denman, cyn i chwi ddyfod i mewn, mai campus o beth a fyddai eich gweled chwi—sef yr unig un o'n cymdogion sydd wedi dal i gredu ym Mhwll y Gwynt—mai campus o beth fydd eich gweled ryw ddiwrnod yn ŵr bonheddig. Yr ydych yn haeddu hynny, Mr. Denman, mi gymraf fy llw, os haeddodd neb erioed."

"Os na ddaw hynny i mi yn fuan," ebe Mr. Denman, yr wyf yn debycach o lawer o ddiweddu f'oes yn y workhouse. A oes gennych chi ryw newydd am Bwll y Gwynt? fath olwg sydd acw yrwan?

"Wel," ebe'r Capten, "'does gen i ond yr hen stori i'w hadrodd wrthych, Mr. Denman, ac nid yr hen stori chwaith. Mae acw well golwg yrwan nag a welais i ers tro. Ac eto, mae gen i ofn deud gormod, rhag y cawn ein siomi. Mae'n well gen i bob amser ddeud rhy fychan na deud gormod. Ond, fel y gwyddoch, yr ydym yn gorfod ymladd â'r dŵr yn barhaus—mae'r elfennau yn ein herbyn—a phe buasai'r directors wedi cymryd fy nghyngor i, sef cael machinery digon cryf yn y dechre, fe fuasem wedi cael y gorau arno ers talwm. Ond nid bob amser y medr dyn gael ei ffordd ei hun, yn enwedig pan na fydd ond gwas. Mi ddwedaf hyn, ac wrth gwrs,