Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nid wyf yn cymryd arnaf fod yn anffaeledig, ond cyn belled ag y mae gwybodaeth ddynol yn mynd—ac y mae gennyf dipyn o brofiad erbyn hyn—cyn belled, meddaf, ag y mae gwybodaeth ddynol yn mynd, mae acw well golwg yrwan nag a welais i o'r blaen. Hwyrach—ond ydw i ddim yn meddwl y bydd—ond hwyrach y bydd raid i ni fod dipyn yn amyneddgar. Chwi wyddoch eich hun fod y plwm a gawsom—'doedd o ddim llawer o beth mi addefaf—ond chwi wyddoch fod y plwm a gawsom yn dangos yn eglur fod yno ychwaneg ohono. Y cwestiwn ydyw—a'r unig gwestiwn—a fydd gan y cwmpeini amynedd, ffydd, a dyfalbarhad, i ddal nes dwad o hyd i'r cyfoeth. Pe buasai pawb o'r cwmpeini fel chwi, Mr. Denman, sef yn ddynion a ŵyr rywbeth am natur gwaith mwyn, fe fuasai rhyw obaith iddynt ddal ati. Ond pa fath ddynion ydynt? Mi ddywedaf i chwi dynion wedi gwneud eu harian mewn byr amser, megis merchants, ac felly yn disgwyl i waith mwyn dalu proffit mawr mewn ychydig amser—pobl ddiamynedd, os na thâl rhywbeth ar ei union. Ond nid peth felly ydyw gwaith mwyn. Mae'n rhaid aros weithiau flynyddoedd, ac y mae llawer, fel y gwyddoch, ar ôl gwario miloedd, yn rhoi gwaith i fyny am nad oes ganddynt amynedd i aros. Ac yna y mae eraill yn dyfod ymlaen, a heb ond y nesaf peth i ddim o gost, yn cymryd y cyfoeth a adawyd. Yr ydym wedi bod dipyn yn anlwcus ym Mhwll y Gwynt, ac mi wn ei fod yn beth profoclyd disgwyl a disgwyl a chael ein siomi, yn enwedig pan fo cymaint o arian caled yn cael eu talu i lawr o hyd. Yr wyf yn gobeithio'n fawr y gwêl y cwmpeini ei ffordd yn glir i gario'r gwaith ymlaen am dipyn bach o leiaf, pe na byddai ond er mwyn fy ngharitor i, ac er mwyn profi fy mod wedi dweud y gwir. Ond rhyngoch chwi a fi, fyddai ddim yn rhyfedd gennyf bydae'r Saeson yna yn rhoi'r gwaith i fyny, a hynny pan ydym o fewn dim i gyrraedd y plwm, ac fe fyddai hynny yn bechod o beth. Pe digwyddai peth felly i Bwll y Gwynt, mi wnawn lw