Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nad awn byth wedyn dan Board of Directors na dim arall, ond y mynnwn gael fy ffordd fy hun o drin y gwaith."

"Wyddoch chi be, Capten," ebe Mr. Denman," bydae'r Saeson yna, fel yr ydech chi'n eu galw, yn rhoi'r gwaith i fyny fory, fydde hynny ddim yn ddrwg gen i, mewn ffordd o siarad. Nid am nad ydw i'n credu fod yno blwm—na, mae gen i ffydd o'r dechre ym Mhwll y Gwynt. Ond bydaswn i'n gwybod y buasai raid i mi wario cymaint o arian faswn i 'rioed wedi ymuno â'r cwmpeini. Feddyliais i 'rioed y buasai raid i mi wario mwy na rhyw gant neu ddau, ond erbyn hyn mae agos y cwbl sy gen i wedi mynd, a mi fydd raid i mi, beth bynnag am y Saeson, roi'r lle i fyny—fedr 'y mhoced i ddim dal."

"Yr wyf yn gobeithio," ebe'r Capten, "nad ydych yn meddwl y gwnawn i eich camarwain yn fwriadol, fodd bynnag? Ac am eich poced, wel, yr ydym yn gwybod yn o lew am honno. Pe buasai gan Capten Trefor boced Mr. Denman, fe fuasai'n cysgu'n llawer tawelach heno. Mae gennych dai a thiroedd, Mr. Denman, ac os rhowch i fyny eich interest yn y Gwaith, chwi edifarhewch am bob blewyn sydd ar eich pen. Nid ydyw ond ynfydrwydd sôn am roi i fyny yrwan, pan ydym ymron cael y gorau ar yr holl anawsterau. Chwi wyddoch fod gen innau shares yn y Gwaith; ond cyn y rhown i i fyny yrwan, mi werthwn fy nghrys oddi am fy nghefn."

"Mae gen i bob ffydd ynoch chi, Capten," ebe Mr. Denman. "Yn wir, faswn i 'rioed wedi meddwl am gymryd shares yn y Gwaith oni bai 'mod i yn eich adnabod chi, a'n bod ni'n dau yn aelodau yn yr un capel. Na, beth bynnag a ddaw o Bwll y Gwynt, mi ddwedaf eich bod chi yn onest. Ond mater rhaid fydd arna' i roi i fyny. Waeth i mi ddeud y gwir, mae mortgage ar y tai a'r tiroedd agos i'w llawn werth, oddieithr y tŷ'r ydw i'n byw ynddo, a ŵyr y wraig acw mo hynny. Bydae hi yn gwybod, fe dorre 'i chalon. Fe ŵyr ar y prinder arian sydd acw 'mod i wedi cario dialedd i Bwll y Gwynt, a