Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ni bu raid i Enoc byth ond hynny gwyno rhyw lawer yn erbyn yr ymborth. Ac felly gyda phob rhan o wasanaeth Marged: pan fyddai yn ddiffygiol nid oedd eisiau ond ei ganmol, a byddai yn lled agos i fod yn iawn. y tro nesaf. Yr oedd canmoliaeth ei meistr wedi peri i Marged ffurfio syniad uwch o lawer am ei rhinweddau nag a feddai hi cynt, a gwneud iddi reoli a rhoi ei bys ym mhob brywes o'r eiddo, oddieithr y siop. Y siop oedd yr unig ran o ymerodraeth Enoc Huws nad oedd Marged wedi ei goresgyn. Mor llwyr y rheolai hi ei dy, fel yr ofnai Enoc, ar adegau, gael mis o notis ganddi—iddo ef fyned ymaith. Ond pa help oedd ganddo? Os cwynai, âi Marged i'w chidwm, ac ni wnâi na rhych na gwellt; o'r ochr arall, os gadawai iddi gael ei ffordd ei hun, odid na byddai pethau'n lled agos i'w lle. Yr oedd cadw Marged mewn hwyl a thymer dda yn cymryd cymaint o'i feddwl, bron, â'i holl orchwylion eraill gyda'i gilydd. Er ei fod, erbyn hyn, yn deall ffordd Marged yn lled dda, ni allai lai na theimlo ei sefyllfa, wrth ystyried ei fod ef, oedd yn fasnachwr llwyddiannus, yn un yr edrychid i fyny ato gan lawer o'i gymdogion, ac a berchid gan ei gyd-aelodau yn y capel am ei ddefnyddioldeb a'i haelfrydedd—ei fod, er y cwbl, dan ryw fath o raid i gymryd Marged i ystyriaeth ac i fanwl chwilio pa fodd y gallai gadw y ddysgl yn wastad gyda hi. Oni buasai fod calon Enoc wedi ei meddiannu yn hollol gan Miss Trefor, buasai ar lawer pryd yn troi allan i chwilio am gymar bywyd heb ofalu pa beth fuasai sefyllfa fydol yr un honno. Fel un wedi ymroddi i fasnach, nid oedd ganddo amser i wneud cyfeillion. Yr adeg hapusaf ar Enoc oedd pan fyddai'n berffaith sicr fod Marged yn cysgu. Yr oedd ganddo ystafell fechan ynglŷn â'r siop wedi ei throi'n fath o offis, a'i llenwi o bwrpas â chistiau a phethau eraill fel nad oedd ynddi le ond i un gadair. Yno yr âi Enoc ar ôl swper, er mwyn cael llonydd. Os âi i'r parlwr deuai Marged i gadw cwmpeini iddo, ac mewn cadair esmwyth syrthiai i gysgu mewn dau funud,