a chwyrnai fel mochyn tew hyd adeg mynd i'r gwely. Os gwarafunai Enoc iddi wneud hynny, âi Marged allan o'i hwyl am dridiau. I arbed y trychineb hwn, âi Enoc i'r offis yn gyson dan yr esgus fod ganddo fusnes." Tra byddai Enoc yn yr offis byddai Marged wrth y tân yn y gegin yn chwyrnu am ddwy, ac weithiau dair awr, oblegid nid âi hi byth i'r gwely yn gyntaf am na allai "drystio" ei meistr i gloi'r drysau. Mewn gwirionedd, yr oedd sefyllfa Enoc yn un druenus iawn, ac arswydai rhag i neb wybod gymaint oedd awdurdod Marged arno. Am hynny ychydig o gyfeillion a wahoddai i'w dŷ.
Y noswaith hon aethai Enoc i'r offis ar ôl swper. Yr oedd yn noswaith oer a niwlog. Buasai Enoc yn brysurach nag arfer, a theimlai yn hynod flinedig. Yr oedd yn rhy ddifater i ymolchi ac ymdrwsio. Eisteddodd o flaen tân i synfyfyrio ar ei sefyllfa. A phe gwelsai merched ieuainc y capel ef, a gwybod am ei feddyliau prudd, diamau y buasai ambell un yn barod i gymryd trugaredd arno. Yr oedd ei gynorthwywyr yn y siop yn lletya allan, am na fynasai Enoc iddynt wybod gymaint yr oedd ef dan lywodraeth Marged. Tynnodd ei esgidiau a gwisgodd ei slipars. Yr oedd yn rhy ddiysbryd i ddarllen, er bod y papur newydd yn ei boced. Pe buasai'r papur yn ei law neu dan ei gesail buasai Marged yn y man yn ei ddilyn i holi beth oedd y newydd. Gwnaethai hynny lawer gwaith, ac yntau'n gorfod adrodd rhywbeth iddi gydag wyneb siriol, er mai ei ddymuniad fuasai ei hannerch: "Ewch i'r —— a gadewch lonydd i mi." Wedi eistedd yn llonydd am ryw bum munud, ymddangosai'n fwy cynhyrfus nag arfer—crychai ei dalcen a gwthiai ei ddwylo i waelod ei bocedau. Cododd ar ei draed, estynnodd ei bibell, gan ei llenwi yn dynn, a mygodd yn galed. Yna poerodd yn sarcastic i lygad y tân. Pwysleisiodd yn bendant â'i ben, a phoerodd eilwaith, fel pe buasai yn gwneud rhyw benderfyniad cadarn yn ei feddwl, ac yn rhoi'r diffoddwr yn dragwyddol ar rywun neu'i gilydd. Buasai yr olwg arno yn peri i