Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oes dim sôn am hynny—yn edrach am rywun llawer uwch na grocer yn ŵr. Fe ŵyr pawb—ac fe ŵyr hithau—ei bod yn brydferth, a bod hyd yn oed ei balchder yn gweddu iddi. Piti na faswn i yn ŵr bonheddig! Mae'i thad, fe ddywedir, yn gyfoethog, ac yn meddwl llawer ohoni. Digon naturiol. Felly 'rydw inne. Capten Trefor, faint o bris yr ydech chi'n i roi ar Miss Susi? Felly. Enoc Huws ydi'r highest bidder! Ond golygwn fod hynny'n bosibl, a hyd yn oed yn debygol, a hyd yn oed yn ffaith,. be fydde'r canlyniad? Yn y lle cyntaf, fe fyddai raid troi Marged i ffwrdd, a bydde raid cael dau blismon at hynny. Yn y lle nesa, ail ddodrefnu'r tŷ os nad cael darn newydd ato. Yn nesa at hynny, fe âi'r tipyn arian sy genni, a holl broffit y busnes, i gadw style! Am ba hyd y medrwn i ddal? am flwyddyn, hwyrach. Ond, ie, dyna ffaith sobr i'w deud,—pe byddai hynny'n bosibl, fe gâi pob ffyrling fynd am fyw gyda hi a'i galw yn Mrs. Huws ddim ond am flwyddyn, ac os bu fiŵl erioed, Enoc Huws ydyw hwnnw! Ond aros di, Enoc, 'chei di ddim bod yn ffŵl ddim yn hwy—mi rown ben ar y meddyliau gwag yna ar ôl heno. Ni awn i feddwl am rywun arall mwy tebyg a chyfaddas i 'neud gwraig i siopwr——rhwfun na 'neith hi ddim creu revolution, ac na fydd ganddi gywilydd mynd y tu ôl i'r counter, a rhwfun a fydd yn ymgeledd ac yn gysur i mi. Ond yr wyt wedi deud fel yna lawer gwaith o'r blaen; do; ac yr ydw i am neud ar ôl heno, deued a ddelo! Holo! pwy sydd yna rwan? Ydi'r siop ddim wedi bod yn agored trwy'r dydd, tybed? Ond mae'n rhaid i ryw bobol gael blino dyn ar ôl adeg cau. A'r un rhai bob amser . . . "

Felly y siaradai Enoc ag ef ei hun.