PENNOD XI
O Boptu'r Gwrych.
RHOES у curo ar y drws ben ar ymson Enoc. Clywid Marged yn ei llusgo ei hun ar hyd y lobi, gan rwgnach. Gwrandawai Enoc yn astud gan ddisgwyl clywed Marged yn cyhoeddi'r ddeddf uwch ben Mrs. Bennet neu Murphy am aflonyddu ar ôl adeg cau. Yn lle hynny clywai hi yn dweud: “ Dowch i mewn," ac yn ebrwydd agorodd Marged ddrws yr offis, yn ôl ei harfer, heb guro, ac ebe hi:
"Dowch i mewn 'y ngeneth i. Mistar—O! 'r annwyl dirion! rydech chi wedi bod yn smocio yn ddigydwybod—. rydech chi'n siŵr o'ch lladd ych hun rw ddiwrnod! Dyma lythyr oddi wrth Capten Trefor, a ma'r eneth yma isio ateb."
Da i Enoc oedd fod haen o flawd ar ei wyneb, oblegid oni bai hynny buasai Marged a'r eneth yn sylwi ei fod wedi gwelwi y foment y crybwyllwyd enw Capten Trefor. Gyda dwylo crynedig agorodd Enoc y llythyr, a darllenodd ef. Ni chynhwysai ond ychydig eiriau:
TŶ'N YR ARDD.ANNWYL SYR,—Os nad ydyw yn ormod o'r nos, ac os nad ydych yn rhy flinedig ar ôl eich amrywiol orchwylion, ac os nad oes gennych gwmni na ellwch yn gyfleus eu gadael, teimlwn yn dra rhwymedig i chwi pe cerddech cyn belled ag yma, gan fod arnaf eisiau ymddiddan â chwi ar fater pwysig i chwi ac i minnau. Disgwyliaf air gyda'r gennad.
Yr eiddoch yn gywir,RICHARD TREFOR.
Gyda chryn anhawster y gallodd Enoc ysgrifennu gair i'w anfon gyda'r eneth i ddywedyd y deuai i Dŷ'n yr Ardd ymhen hanner awr. Cafodd ddigon o bresenoldeb meddwl i nodi "hanner awr" er mwyn cael amser i ymolchi ac ymwisgo. Gofynnodd Enoc i Marged am gannwyll.