Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nos. Nid oedd eisiau i chwi brysuro o gwbl; yn wir, y fi ddylasai ddyfod atoch chwi, Mr. Huws, oblegid y mae â fynno'r peth yr wyf am gael ymddiddan â chwi yn ei gylch fwy â mi—yn yr oed yr ydw i ynddo—nag â chwi. Yn y gwanwyn nesaf, os Duw a'i myn, mi fyddaf yn—wel, yn f'oed i fe ddylai dyn wybod rhywbeth— mae ei feddwl wedi ei wneud i fyny, ac nid ychydig wneith ei droi" ("Mae hi'n edrach yn ddu arna' i,' sibrydai Enoc yn ei galon).

"Mae'r mater, Mr. Huws," ychwanegai'r Capten, "y mae arnaf eisiau ymddiddan difrifol â chwi yn ei gylch yn agos iawn at fy nghalon, fel y gŵyr Mr. Denman. Mewn ffordd o siarad, dyma f'unig blentyn, a pha beth bynnag a fydd eich penderfyniad chwi nid wyf am ollwng fy ngafael ohono. (Mae hi yn y pen arna' i,' meddyliai Enoc). Mae Mr. Denman, fel y gwyddoch, Mr. Huws, yn dad i blant, a rhaid iddo ef, fel finnau, gymryd y dyfodol a chysur ei deulu i ystyriaeth, ac y mae ef o'r un meddwl à mi yn hollol ar y pwnc yma. 'Dydi'r mater, Mr. Huws, ddim yn beth newydd i mi—nid rhywbeth er doe neu echdoe ydyw. (Digon gwir,' meddyliai Enoc, ond sut yn y byd y daeth o i wybod?') Na, yr wyf wedi colli llawer noswaith o gysgu o'i herwydd, er na chrybwyllais i air am y peth hyd yn oed wrth Mrs. Trefor, y dylaswn fod wedi ei hysbysu gyntaf, gan ei fod yn dwyn cysylltiad â hi lawn cymaint â mi fy hun, cyn belled ag y mae cysur teuluaidd yn y cwestiwn. Ond chwi wyddoch, Mr. Huws, er mai hen lanc ydych—begio'ch pardwn, 'dydech chi ddim yn hen lanc eto, nac yn meddwl bod yn un, gallwn dybied—ond er mai dyn dibriod ydych, chwi wyddoch nad ydyw merched yn edrych ar bethau fel mae dynion yn edrych. Edrych y mae merched trwy eu calonnau—sentiment ydyw'r cwbl ond y mae'n rhaid i ni, y dynion, edrych ar bethau trwy lygad rheswm. Sut yr wyf yn teimlo? ydyw gofyniad merch, ond sut y dylai pethau fod? ydyw gofyniad dyn. ('Mi liciwn bydae o yn dwad at y pwynt, a darfod â fo,'