Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddai Enoc yn ei frest). Ond dyna yr oeddwn yn ei ddweud, 'dydi'r mater y mae arnaf eisiau ymddiddan â chwi yn ei gylch ddim yn beth newydd i mi, a Mr. Denman ydyw'r unig un y soniais i air erioed wrtho amdano, onid e, Mr. Denman?"

"Ie," ebe Mr. Denman, " ac y mae'n rhaid i mi ddweud bod y Capten yn ddyn llygadog iawn. Prin yr oeddwn yn credu'r peth yn y dechrau ; ond y mae'r Capten o ddifrif, ac yn benderfynol gyda golwg ar y peth, a fi ddaru ei annog i anfon amdanoch yma heno. Yr oeddwn yn meddwl mai gwell oedd iddo eich gweled, Mr. Huws, ar y mater, nag ysgrifennu llythyr atoch."

"Yn hollol felly," ebe'r Capten. "Yr oeddem ein dau yn cydfeddwl mai gwell oedd i ni ddyfod i wynebau'n gilydd er mwyn cael dealltwriaeth briodol ar y pwnc. Hwyrach, Mr. Huws, yn wir, mae'n ddiamau, y bydd raid i ni yn y drafodaeth hon—hyd yn oed os byddwch yn cydymffurfio â'm cais—gael rhywun arall i mewn, megis Mr. Lloyd, y twrne, er y dymunwn ei gyfyngu i'r cylch lleiaf sydd yn bosibl. (Marriage Settlement mae o'n 'i feddwl, 'ddyliwn,' ebe Enoc yn ei frest, a churai ei galon yn gyflymach). Yr wyf, gyda thipyn o gyfrwystra, Mr. Huws," ychwanegai'r Capten, wedi sicrhau'r virgin ground, fel y dywedir. (Diolch! os ydi hi yn fodlon, ond yr wyf just a ffeintio,' ebe Enoc ynddo'i hun). Ond y cwestiwn ydyw a fyddwch chwi, Mr. Huws, yn fodlon i ymgymryd â'r anturiaeth, hynny ydyw, os llwyddaf i ddangos i chwi'r fantais o hynny?

Yr oedd Enoc ar fedr dweud y byddai'n fodlon, pryd yr ychwanegodd y Capten, "Mae arnaf ofn, Mr. Huws, nad ydych yn teimlo yn iach—mae'ch gwedd yn dangos hynny yn eglur—dowch ymlaen yma, syr, a gorweddwch ar y soffa am funud—yr ydych wedi gwneud gormod, a'r ystumog, hwyrach, allan o order. Gorweddwch, Mr. Huws, mi geisiaf rywbeth i'ch dadebru."

Teimlai Enoc ei hun yn hollol ddiymadferth, ac ufuddhaodd i anogaeth y Capten. Er ei fod yn ddig enbyd