weithwyr, a gwell na'r cwbl, yn fy ngolwg i, Gwaith na byddai gan Saeson na phobl Llunden ddim i'w ddweud wrtho, a lle gallwn gael fy ffordd fy hun o'i ddwyn ymlaen ; ac fe ŵyr Mr. Denman pe cawswn i fy ffordd fy hun gyda Phwll y Gwynt ym mha le y buasem erbyn hyn. Yn awr, Mr. Huws, fe ddarfu i Mr. Denman a minnau ben— derfynu rhoddi'r cynigiad cyntaf i chwi oddi ar yr eg— wyddor nes penelin nag arddwrn!' Os gallwn wneud lles i rywrai yr oeddym yn ystyried y dylem roddi'r cynnig cyntaf i'n pobl ni ein hunain. Beth meddwch chwi, Mr. Huws? A ydych yn barod—oblegid mi wn fod y moddion gennych—a ydych yn barod er eich mwyn eich hun er mwyn y gymdogaeth ac yn bennaf oll er mwyn achos crefydd—i ymuno â Mr. Denman a minnau i gymryd shares yn y Gwaith newydd? Yr ydych—os na ddarfu i mi eich camddeall eisoes wedi datgan eich parodrwydd, os gallwn lwyddo i ddangos y byddai hynny er eich lles personol a lles y gymdogaeth yn gyffredinol. Ond peidiwch ag addo'n rhy fyrbwyll— cymerwch noswaith i gysgu dros y mater, oblegid ni ddymunwn am ddim ar a welais arfer dylanwad amhriodol arnoch—yn wir, byddai'n well gennyf i chwi wrthod, os na fedrwch ymuno â ni yn yr anturiaeth hon o wirfodd eich calon."
Tra'r oedd y Capten yn llefaru'r rhan olaf o'i araith yr oedd Enoc Huws mewn tipyn o benbleth yn ceisio galw i'w gof bob gair a ddywedasai ei hun yn ystod yr ymddiddan, ac a oedd wedi ei fradychu ei hun, a rhoddi ar ddeall mai am rywbeth arall y meddyliai tra'r oedd y Capten yn sôn am waith mwyn. Teimlai Enoc yn sicr ei fod wedi dweud rhywbeth am fod yn "barod i entro i arrangement â chynigion y Capten cyn gwybod pa beth oeddynt, a phan ddeallodd ei fod ef a'r Capten un o bobtu'r gwrych, teimlai anhawster mawr i'w esbonio ei hun a dyfod allan o'r dryswch. Yr oedd anhraethol wahaniaeth, meddyliai Enoc, rhwng cymryd shares mewn gwaith mwyn, a chymryd merch y Capten yn