wraig. A theimlai yn enbyd o ddig wrtho'i hun am na ddeallasai rediad ysgwrs y Capten yn gynt. Arbedasai hynny iddo hanner llesmeirio, ac, yn sicr, ni fuasai wedi dweud ei fod yn barod "i entro i unrhyw arrangement rhesymol," nac wedi sôn am "berthynas agosach," phethau ffôl felly, pe gwybuasai am ba beth y siaradai'r Capten. Pan ofynnodd y Capten y cwestiwn yn syth iddo, nid oedd Enoc yn gweled ei ffordd yn glir i ddyfod allan o'r dryswch, ac er mwyn cael amser i fyfyrio, anogodd y Capten i egluro'n fanylach, yr hyn a wnaeth y gŵr hwnnw mewn brawddegau hirion, baglog a chwmpasog am ystod chwarter awr arall. Yna ebe Enoc—a theimlai ei fod yn torri ar ei arferiad cyffredin, oblegid ei arfer a fyddai dweud y gwir yn syth a gonest:
"Yr oeddwn yn dyfalu o'r dechrau, Capten Trefor, mai Gwaith mwyn oedd gennych mewn golwg, ac, fel y dywedais, pan fydd pwnc o fusnes ar y bwrdd, yr wyf bob amser yn barod i entro i unrhyw arrangement rhesymol hynny ydyw, os bydd rhywbeth yn ymddangos yn rhesymol, ac yn debyg o droi allan yn llwyddiannus—ni byddaf yn ôl o'i daclo. Ond y mae'n rhaid i'r peth ymddangos i mi yn rhesymol cyn yr ymyrraf ag ef. Hyd yn hyn, gyda busnes, nid ydwyf wedi gwneud llawer o gamgymeriadau, ac ni fûm erioed yn euog o roi naid i'r tywyllwch. Ar y llaw arall, y mae rhyw gymaint o dywyllwch ynglŷn â phob anturiaeth (cofiai Enoc o hyd am Susi), oblegid heb hynny ni fyddai yn anturiaeth o gwbl; ac weithiau, mae'r tywyllwch ym meddwl yr anturiaethwr ac nid yn yr anturiaeth ei hun. Gall y 'fentar' yr ydych yn sôn amdani fod yn dywyll iawn i mi, nid, hwyrach, am ei bod felly ynddi ei hun, ond am nad wyf i'n meddu llygaid Capten Trefor i'w gweled yn ei holl rannau. Hwyrach, pan ddown i berthynas agosach, os byth y daw hi i hynny, fel y dywedais o'r blaen, y bydd y 'fentar' yn ymddangos yn olau i minnau. Wrth gwrs, y mae gwaith mwyn yn beth hollol ddieithr i mi, ac felly y bu i ugeiniau o'm blaen, mi wn, cyn iddynt