Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymgydnabyddu â'r peth. Mi gymeraf eich cyngor, Capten Trefor, mi gysgaf dros y mater, a chawn siarad am hyn eto. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am sefyllfa Pwll y Gwynt, ac y mae'n bwysig i mi, ac i eraill, fod rhywbeth yn cael ei ddarparu ar gyfer y gwaethaf, fel y dywedasoch."

"Mae'n dda gennyf eich clywed yn siarad fel yna, Mr. Huws," ebe'r Capten. "Mae'n well gennyf eich clywed yn deud yr ystyriwch y mater na phe buasech yn datgan eich parodrwydd i gymryd shares cyn deall pa beth yr oeddych yn ei wneud. Pan welaf ddyn amharod i roi naid i'r tywyllwch, fel yr ydych yn eich ffordd hapus eich hun yn ei eirio, ond sydd â'i glust yn agored i wrando ar reswm, mi fyddaf yn teimlo mai dyn fydd gennyf i ymwneud ag ef, ac nid hyn a hyn o bwysau o gnawd, ac mi wn, y pryd hwnnw, sut i fynd o gwmpas fy ngwaith. Pa beth a roeswn i heno, syr, pe buasai pobl Llunden, neu, mewn geiriau eraill, pe buasai Cwmpeini Pwll y Gwynt o'r un ysbryd ac ansawdd meddwl â chwi, Mr. Huws? hynny ydyw, yn agored i wrando ar reswm? Mi roddwn fy holl eiddo, syr, ffrwyth fy llafur caled am lawer o flynyddoedd, pe byddai'n bosibl eu cael i'r un dymer meddwl â chwi, Mr. Huws. Ond ni adawn y mater yn y fan yna heno."

Ac felly y gwnaethpwyd, er i'r Capten lefaru cryn lawer tra'r oedd Enoc yn rhoi ei het am ei ben ac yn paratoi i fyned ymaith. Galwodd y Capten ar Susi "i ddangos Mr. Huws allan," a phan ddaeth hi ysgydwodd y Capten ddwylo ag Enoc, a chiliodd yn ôl i orffen y busnes gyda Mr. Denman.