Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

humbug, chwedl Wil. Ond faswn i ddim wedi cario 'mlaen bydase 'nhad wedi deud yn gynt mai tlawd oedden ni. Sut yr edrycha i, tybed, mewn ffroc gotwn? Mae 'ma un i fod yn rhywle. Mae hi dipyn allan o'r ffasiwn erbyn hyn, 'ddyliwn, ond mi fedraf ei haltro. Lle mae hi? Weles i moni ers gwn i pryd. Mi triaf hi i weld tebyg i be fyddai'n edrach. Sealskin? Wel, rhaid dy droi dithe'n bres rw ddiwrnod, 'ddyliwn. Lle mae'r hen ffroc yma? 'Ddylies i 'rioed fod genni gymin o ddillad! Fi fydd y cwsmer gore a gafodd Mr. Lefiticus, y pawnbroker, ers blynyddoedd! Yn eno'r annwyl, ddaru mi 'i rhoi hi i rwfun? Na, dyma hi! Wel, yr hen ffroc, should old acquaintance be forgot? Mae 'nhad yn licio 'nghlywed i'n canu honyna—ond dim chwaneg o ganu i mi! Wyt ti'n 'y nghofio i, yr hen ffroc? 'Rwyt ti'n edrach yn o rinclyd, ond yfory rhown di ar gefn cader o flaen tân. Be ddyliet, yr hen ffroc, o gael mynd i'r capel unweth eto? 'Rwyt ti wedi d'amddifadu o foddion gras ers talwm, ond wyt ti? Rheswm annwyl! prun ai fi sy'n dewach ai ti sy wedi rhedeg i fewn? Wel, erbyn i mi fyw ar frywes, ac i tithe gael d'ollwng allan, mi ddown at ein gilydd eto. Rheswm! mae 'ma le i mi fyw yn dy lewys di, a mae dy wasg di tua milltir yn rhy hir? Ond sut na fotymet ti? Ond oes golwg sobr arna' i! Ond na hidia, Susi, os ydi'r glass yna'n deud y gwir, 'dwyt ti ddim yn perfect fright eto! Ond dyna, yr hen ffroc, lle'r wyt ti'n 'y nghuro i—pan â i yn hen, fydd o ddim diben fy rhoi ar gefn cader o flaen tân i dynnu'r rhyche o'r wyneb! Yr idea! Ie, 'y nhad yn sôn am i mi gymryd miner cyffredin. Na 'na byth! na 'na'n dragywydd! bydawn dloted â Job. Be oedd y babŵn gan Enoc yn 'i feddwl wrth ddeud mai angel oeddwn i? Oedd o'n meddwl rhywbeth? Ond dda gen i mo'r sant—mae o'n rhy dduwiol yn rhy lonydd. Bydase fo'n hanner dyn, mi fase'n trio cael cusan gen i wrth y gate; ond bydase fo'n gneud hynny, mi faswn yn rhoi slap iddo yn 'i wyneb. Ond rois i ddos